Yn ddiweddar, fe gyrhaeddodd dau ddigwyddiad mawr a gafodd eu cynnal yn Wrecsam y flwyddyn ddiwethaf restr fer rownd derfynol Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2018.
Daeth y Farchnad Nadolig Fictoraidd flynyddol hynod boblogaidd a Gŵyl Fwyd Wrecsam a’i brand newydd o fewn trwch blewyn i ennill yn y noson wobrwyo, ond fe gawsant yr ail wobr yn y ddau gategori.
Dywedodd Joe Bickerton, Twristiaeth a Chyrchfan: “Er na wnaethom ni ennill, mae cyrraedd y rownd derfynol wedi bod yn anrhydedd enfawr ac yn brawf o ba mor galed mae pobl yn gweithio i gynnal y digwyddiadau anhygoel yma yn Wrecsam. Fe fyddwn ni’n ôl flwyddyn nesa’ ac, yn y cyfamser, rydyn ni’n gobeithio y bydd pawb yn manteisio ar y pethau gwych sydd wedi’u trefnu dros y Nadolig.”
Bwriad Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yw cydnabod cyflawniadau aruthrol busnesau a digwyddiadau yn niwydiant twristiaeth Gogledd Cymru. Roedd y Farchnad Fictoraidd wedi’i henwebu fel y digwyddiad gorau i ddenu dros 7,500 o bobl a’r Ŵyl Fwyd fel y digwyddiad gorau i ddenu llai na 7,500.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]