Cynhaliwyd Seremoni Gysegru arbennig iawn ym Mynwent Plas Acton yn ddiweddar.
Gosodwyd Carreg Goffa yn y rhan o’r fynwent ar gyfer Babanod, i nodi man arbennig i rieni sydd yn galaru am eu babanod.
Siaradodd Jane Marshall, Caplan Ysbyty Maelor yn y Seremoni Gysegru, lle’r oedd rhieni a’r Cynghorydd David Griffiths y cynghorydd lleol yn bresennol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Dyma’r ysgrifen ar y Garreg::
“I’n holl fabanod
A garwyd mor annwyl
Na chawsom eu hadnabod yn hir”
Rhoddwyd y garreg gan Gyfarwyddwyr Angladdau Peter Morris o’r Wyddgrug, ac fe’i gwnaed gan Morris Granite o Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fe hoffwn ddiolch i Gyfarwyddwyr Angladdau Peter Morris am eu rhodd caredig iawn ac ystyriol. Mae’r rhan hon o’r fynwent wedi’i chadw ar gyfer babanod a phlant bach, ac mae’n bwysig iawn bod gan eu rheini a theulu fan arbennig i ddod i gofio eu rhai bach”.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]