Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2025
Y cyngor

Trefniadau Gweithio Cyngor Wrecsam dros y Nadolig 2025

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 12, 2025 11:47 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Tourism
RHANNU

Bydd y rhan fwyaf o adeiladau swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar gau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – er y bydd y gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu gweithredu.

Cynnwys
  • Gwasanaethau cwsmeriaid
  • Tai
  • Gofal cymdeithasol
  • Gwasanaethau cofrestru
  • Casgliadau gwastraff
  • Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
  • Tŷ Pawb
  • Llyfrgelloedd
  • Rhybudd tywydd

Mae llawer o Gynghorau ar draws Cymru a gweddill y DU yn cwtogi gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig, oherwydd y galw isel a’r gost o gadw adeiladau ar agor.

Eleni, bydd y Cyngor yn cau ei swyddfeydd ar Stryt y Lampint, Adeiladau’r Goron a Ffordd Rhuthun tua hanner dydd, ddydd Mercher, 24 Rhagfyr. Bydd yr adeiladau ar gau tan ddydd Gwener, 2 Ionawr.

Trwy gau’r adeiladau hyn bydd y Cyngor yn cyflawni arbedion o ran costau nwy a thrydan.

Bydd ein gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu. Mae’r rhain yn cynnwys timau ymateb brys priffyrdd a’r amgylchedd, cymorth ac atgyweirio tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol – er y bydd rhai gwasanaethau’n cael eu cwtogi.

Gwasanaethau cwsmeriaid

Bydd Galw Wrecsam (ein canolfan gyswllt wyneb yn wyneb yn Llyfrgell Wrecsam) yn cau am 12pm ddydd Mercher, 24 Rhagfyr a bydd yn ailagor ddydd Gwener, 2 Ionawr.

Dyma’r oriau agor / cau ar gyfer ein canolfan gyswllt dros y ffôn (01978 292000):

  • Dydd Mercher, 24 Rhagfyr – yn cau am 12pm
  • Dydd Iau, 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig) – ar gau
  • Dydd Gwener, 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan) – ar gau
  • Dydd Llun, 29 Rhagfyr – 9am-4pm
  • Dydd Mawrth, 30 Rhagfyr – 9am-4pm
  • Dydd Mercher, 31 Rhagfyr – 9am-4pm
  • Dydd Iau, 1 Ionawr – ar gau
  • Dydd Gwener, Ionawr 2 – oriau agor arferol

Cofiwch – mae modd cael mynediad at wasanaethau’r Cyngor ar-lein 24/7.

Tai

Bydd yr holl swyddfeydd ystadau tai ar gau o 12pm ddydd Mercher, 24 Rhagfyr tan ddydd Gwener, 2 Ionawr.

Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion tai ar y rhifau ffôn canlynol:

  • Atgyweiriadau tai (24 awr) – ffoniwch 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
  • Digartrefedd – gallwch ffonio ein Tîm Dewisiadau Tai (24 awr) ar 01978 292947.

Gofal cymdeithasol

Rhwng 12pm ddydd Mercher, 24 Rhagfyr a 8.30am dydd Gwener, 2 Ionawr bydd gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn argyfwng yn unig.

Rhwng 8.30am a 5pm 29, 30 a 31 Rhagfyr, ar gyfer materion brys mewn perthynas â gofal cymdeithasol i blant, ffoniwch 01978 292039.

Ar gyfer materion brys (yn cynnwys rhyddhau o’r ysbyty) mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ffoniwch 01978 292066.

Y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gysylltu â’r Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng ar 03450 533116.

Bydd yr holl wasanaethau’n ailddechrau ddydd Iau, 2 Gwener.

Gwasanaethau cofrestru

Bydd Neuadd y Dref ar agor i gofrestru marwolaethau’n unig.

Casgliadau gwastraff

Bydd biniau’n cael eu casglu dros gyfnod y Nadolig, er y bydd rhywfaint o newidiadau i amserlenni.
Gwiriwch eich diwrnod casglu.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Caiff y safleoedd eu rheoli gan FCC Environment.

Ewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno).

Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.

Tŷ Pawb

Dyma oriau agor / cau Tŷ Pawb:

  • Dydd Mercher, 24 Rhagfyr – 2pm cau
  • Dydd Iau, 25 Rhagfyr – gau
  • Dydd Gwener, 26 Rhagfyr – gau
  • Dydd Sadwrn, 27 Rhagfyr – 11am-4pm
  • Dydd Sul, 28 Rhagfyr – gau
  • Dydd Llun, 29 Rhagfyr – 11am-4pm
  • Dydd Mawrth, 30 Rhagfyr – 11am-4pm
  • Dydd Mercher, 31 Rhagfyr – 11am-2pm
  • Dydd Iau, 1 Ionawr – gau
  • Dydd Gwener, 2 Ionawr – oriau agor arferol

Llyfrgelloedd

Bydd pob llyfrgell yn cau am 1pm ddydd Mercher, Rhagfyr 24.

Bydd Llyfrgell Wrecsam ar agor o 9am tan 1pm ar y dyddiadau canlynol (oriau agor llai):

  • Dydd Sadwrn, Rhagfyr 27
  • Dydd Llun, Rhagfyr 29
  • Dydd Mawrth, Rhagfyr 30
  • Dydd Mercher, Rhagfyr 31

Bydd pob llyfrgell yn ôl i fusnes fel arfer (oriau agor llawn) o ddydd Gwener, Ionawr 2.

Rhybudd tywydd

Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:

  • (24 awr) 01978 298989
  • Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk

Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:

  • Materion cyffredinol
  • Gwaith trwsio tai

Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).

Gellir rhoi gwybod i Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 am unrhyw argyfyngau lle bydd carthion yn gorlifo o ddraeniau.

Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham library services team Tîm llyfrgelloedd Wrecsam yn derbyn gwobr lenyddol fawreddog
Erthygl nesaf Mae rhieni y collodd eu plant y brechlyn ffliw yn yr ysgol yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig, wrth i achosion o ffliw yng Nghymru barhau ar gynnydd Mae rhieni y collodd eu plant y brechlyn ffliw yn yr ysgol yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig, wrth i achosion o ffliw yng Nghymru barhau ar gynnydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English