Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych ar gyfer Techniquest Glyndŵr a chanol y dref!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Newyddion gwych ar gyfer Techniquest Glyndŵr a chanol y dref!
ArallPobl a lle

Newyddion gwych ar gyfer Techniquest Glyndŵr a chanol y dref!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 24, 2019 11:05 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Techniquest Glyndwr
RHANNU

Mae mwy o newyddion da i ganol y dref gan y cyhoeddwyd fod Techniquest Glyndŵr wedi sicrhau cyllid sylweddol gwerth cyfanswm o £2.5 miliwn gan y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Bydd hyn yn cyfrannu at gost llawn y prosiect o £2.8 miliwn.

Mae’n golygu y gall y ganolfan wyddoniaeth yn Wrecsam wireddu eu breuddwyd o symud i ganol y dref i hen adeilad TJ Hughes.

Bydd symud yn galluogi’r Ganolfan Wyddoniaeth i ddefnyddio’r eiddo mwy i gynnig rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau gwyddoniaeth a detholiad ehangach o arddangosfeydd rhyngweithiol i’r cyhoedd ac ysgolion ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Sicrhawyd £750,000 mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan Raglen Targedu Buddsoddiad Adfywio Llywodraeth Cymru, a fydd yn galluogi caffael ac adnewyddu’r eiddo allweddol hwn. Daw’r cyllid o £1.75million a ddyfarnwyd o’r ‘Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth’ a’i fwriad yw hybu mwy o ymgysylltiad a diddordeb mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws y DU.

Roedd y cais am gyllid wedi derbyn cefnogaeth gan sawl asiantaeth allweddol yn Wrecsam gan gynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a ninnau gan ein bod yn cefnogi adfywio canol y dref.

Mae’r cynlluniau a amlinellwyd yn y cais hefyd wedi derbyn cefnogaeth helaeth gan y cyhoedd, a nodwyd gan y niferoedd uchel o bobl leol a aeth i ymweld â’r ganolfan wyddoniaeth dros dro a agorwyd dros yr haf yn ystod cyfres o wyliau stryd misol Wrecsam.

Mae busnesau lleol yng nghanol y dref wedi mynegi eu cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig i greu atyniad newydd yng nghanol y dref a fydd o gymorth i gynnal dyfodol economaidd hirdymor y dref.

Mae nifer wedi bod yn cefnogi ymgyrch #MyTQG dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae pawb o lywodraeth leol, busnesau a’r cyhoedd wedi eu cefnogi.

Mae Techniquest Glyndŵr yn awr yn chwilio am ddiwydiant lleol i’w cefnogi’n ariannol ac mewn nwyddau wrth iddynt weithio’n galed dros y ddwy flynedd nesaf i ddatblygu’r safle a mwy o brosiectau cyffrous.

Mae dyraniad y cyllid yn cymell cyfnod dwys o 12 mis lle byddant yn prynu’r adeilad yng nghanol y dref a’i drawsnewid yn ganolfan wyddoniaeth weithredol i ddisodli’r ganolfan bresennol ar Gampws Plas Coch ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer Techniquest Glyndŵr a chanol y dref. Bydd yn agor yr ardal hon yn y dref unwaith eto a hoffwn longyfarch y staff a diolch iddynt am eu gwaith caled i dderbyn y cyllid hwn.  Bydd y datblygiad yn rhan o adfywiad canol y dref a fydd yn golygu bod defnydd preswyl ac adwerthu yn Stryt Henblas a Stryt Caer.  Gyda chyhoeddiad i ddod yn fuan ynglŷn â’r hen siop BHS mae’r dyfodol yn ddisglair ar gyfer y rhan hon o’r dref.”

Dywedodd Scot Owen, Rheolwr Canolfan Techniquest Glyndŵr:  “Rydym yn falch ein bod wedi derbyn cyllid ar gyfer dyfodol Techniquest Glyndŵr o fewn ein cymuned yma yn Wrecsam.  Mae symud wedi bod yn rhan o’n gweledigaeth ers peth amser a nawr gallwn ddechrau gweithredu ein cynlluniau.

Mae Techniquest Glyndŵr wedi ymrwymo i Wrecsam a chymuned canol y dref, sy’n mynd law yn llaw ag ysbrydoli meddyliau ifanc drwy bynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).  Mae cael rhywle sydd yng nghanol y gymuned yn elfen gadarnhaol i bawb.

Rydym yn awr yn parhau i edrych ymlaen at gyfnod cyffrous iawn i ni a Wrecsam, gyda chyfle gwych i greu rhywbeth arbennig ar gyfer ein rhanbarth.

Dywedodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth Gogledd Cymru:  “Mae hyn yn newyddion gwych –ar gyfer Techniquest Glyndŵr, ar gyfer canol tref Wrecsam, ac ar gyfer STEM yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

“Bydd y cyllid hwn yn gymorth i sicrhau bod Techniquest Glyndŵr mewn lleoliad allweddol yng nghanol y dref- un sy’n gweld ystod o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus.  Bydd y datblygiad yn elfen allweddol o adfywio canol y dref.

“Mae’n golygu y gall Prifysgol Glyndŵr Wrecsam barhau i ymestyn y gwaith cymunedol y mae wedi’i wneud gyda’i bortffolio o gyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  Mae’r gwaith yn fuddsoddiad yn ein sylfaen sgiliau rhanbarthol sydd wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â phartneriaid y diwydiant, a bydd yn gymorth i hybu’r economi am flynyddoedd i ddod.”

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Galwad am sgriblwyr bychan! Galwad am sgriblwyr bychan!
Erthygl nesaf A ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau adeiladu traddodiadol? A ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau adeiladu traddodiadol?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English