Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Niferoedd Ymwelwyr ar gynnydd yng Nghanol y Dref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Niferoedd Ymwelwyr ar gynnydd yng Nghanol y Dref
Busnes ac addysgPobl a lle

Niferoedd Ymwelwyr ar gynnydd yng Nghanol y Dref

Diweddarwyd diwethaf: Awst 2, 2017 11:46 am
Rhannu
Darllen 4 funud
wrexham
RHANNU

Mae newyddion gwych i ganol y dref gan fod y ffigurau newydd yn dangos bod niferoedd yr ymwelwyr wedi cynyddu 6% i oddeutu 77,000 o ymwelwyr yr wythnos. Casglwyd y ffigurau ar hyd Stryd yr Hôb rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf eleni.

Hefyd mae’r ffigurau yn dangos mai dydd Sadwrn yw’r diwrnod prysuraf o ran pobl yn y dref, gyda’r uchafbwynt oddeutu hanner dydd.

Yn dilyn dadansoddiad o berfformiad Stryd Fawr Wrecsam gan Brifysgol Metropolitan Manceinion yn ôl yn 2014, cynigiwyd nifer o argymhellion a’r llynedd, sefydlwyd grŵp llywio newydd canol tref newydd i weithredu’r cynllun 25 pwynt ar gyfer y dref.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Un o’r amcanion hyn oedd edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer yr ymwelwyr, drwy fentrau megis gwella golwg y dref ynghyd â datblygu digwyddiadau newydd. Mae’r data o’r peiriant cyfrif electronig newydd a osodwyd ar Stryd yr Hôb wedi bod yn bwydo cyfrifiadau wythnosol i’r tîm Rheoli Canol Tref.

Mae’r dref wedi cael ei hybu gan wyliau stryd misol a digwyddiadau cymunedolts

Roedd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi yn falch o weld y data diweddaraf. Dywedodd

“Mae’r tîm canol tref a’r grŵp llywio wedi gweithio’n galed eleni i sicrhau bod y dref a’n marchnadoedd yn cael eu blaenoriaethu o ran golwg a chael eu hyrwyddo’n dda. Ynghyd â digwyddiadau conglfaen fel parêd Dydd Gŵyl Dewi, yr ŵyl fwyd a’r Farchnad Nadolig Fictoraidd – mae’r dref wedi ei hybu gan y gwyliau stryd fisol a digwyddiadau cymunedol sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd drwy’r dref i gyd.”

Mae Wrecsam yn un o’r saith tref sydd wedi ei ddewis i gymryd rhan yn y Prosiect Arloesi, y prosiect 2 flynedd gan y llywodraeth i dracio gwerthiannau a nifer yr ymwelwyr yn Wrecsam. Yn ogystal â’r peiriant cyfrif nifer yr ymwelwyr, mae data gwerthiant yn cael eu casglu gan ddwsin o fusnesau ar draws canol y dref bob wythnos. Mae’r data hwn yn edrych ar newid % mewn gwerthiannau wythnosol a hefyd ar newid % mewn gwerthiannau o un flwyddyn i’r llall.

Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd yn y prosiect wedi’u lledaenu ar draws canol y dref ac mae eu ffigurau gwerthu (wedi’u rhoi fel canran cynnydd neu leihad) yn cael eu cyflwyno bob dydd Mercher. Mae’r tîm canol tref yn prosesu’r data ac yn dychwelyd ag adroddiad gwerthiannau i bob busnes yn dangos sut mae eu gwerthiannau wedi bod yn erbyn canol y dref. hefyd maent yn cael golwg cyffredinol o werthiannau a nifer yr ymwelwyr yn Wrecsam.

Mae swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn awr yn gobeithio gosod peiriannau cyfrif ychwanegol mewn rhannau eraill o’r dref fel y maent yn parhau i gasglu rhagor o wybodaeth i gefnogi mentrau yn y dyfodol, ac yn natblygiad y dref fel lleoliad cystadleuol.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Beth yn union yw ystyr SATC? Beth yn union yw ystyr SATC?
Erthygl nesaf Ydych chi’n defnyddio Byd Dŵr? Cewch ragor o wybodaeth am newidiadau i’r ganolfan hamdden yma Ydych chi’n defnyddio Byd Dŵr? Cewch ragor o wybodaeth am newidiadau i’r ganolfan hamdden yma

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English