Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Seremoni lofnodi yn nodi dechrau’r gwaith adeiladu mewn ysgol gynradd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Seremoni lofnodi yn nodi dechrau’r gwaith adeiladu mewn ysgol gynradd
Busnes ac addysgPobl a lle

Seremoni lofnodi yn nodi dechrau’r gwaith adeiladu mewn ysgol gynradd

Diweddarwyd diwethaf: 2019/01/02 at 11:24 AM
Rhannu
Darllen 2 funud
Seremoni lofnodi yn nodi dechrau’r gwaith adeiladu mewn ysgol gynradd
RHANNU

Mae staff a disgyblion wedi gadael eu marc ar fframwaith yr estyniad newydd yn eu hysgol.

Cynhaliwyd seremoni lofnodi yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt yr wythnos ddiwethaf i nodi diwedd cam cyntaf y gwaith adeiladu ar estyniad newydd yr ysgol.

Cafodd staff uwch, disgyblion, swyddogion, llywodraethwyr a chynghorwyr lleol y cyfle i lofnodi trawst dur sy’n ffurfio rhan o fframwaith yr ychwanegiad newydd i’r ysgol.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Bydd yr estyniad newydd, sydd i fod wedi’i gwblhau erbyn mis Medi 2019, yn galluogi’r ysgol i uno’r adeiladu babanod ac iau ar wahân ar un safle sengl.

Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys parth dysgu hyblyg newydd sbon, wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm Cymru newydd, a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ochr yn ochr â system sain-weledol di-wifr modern a fydd yn galluogi athrawon a disgyblion i gydweithio ar amryw o ddyfeisiau a phlatfformau ar unrhyw sgrin yn yr ysgol.

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu 50 y cant gan gronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, gydag arian cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn o gael nodi cam hwn y gwaith yn Ysgol Gynradd Gwersyllt, ac mae’r staff a disgyblion yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r buddion a ddaw gyda’r estyniad newydd.

“Hoffwn ddiolch i Read Construction am eu gwaith ar y safle hyd yma, ac edrychwn ymlaen at weld y safle ychwanegol wedi’i gwblhau yn 2019.”

Dywedodd Kasia Pugh, Rheolwr Ymgysylltu Read Construction: “Mae Read yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam i ddarparu’r cynllun. Rydym wedi ymrwymo i gynnwys y gymuned leol ac yn falch o gael ymgysylltu â’r ysgol yn y cam arwyddocaol hwn o’r gwaith adeiladu.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dysgu mwy am drechu caethwasiaeth mewn cadwyni cyflenwi, y Cyflog Byw a Gwaith Teg Dysgu mwy am drechu caethwasiaeth mewn cadwyni cyflenwi, y Cyflog Byw a Gwaith Teg
Erthygl nesaf Dysgu gyrru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn aelod o’r llyfrgell! Dysgu gyrru? Gwnewch yn siŵr eich bod yn aelod o’r llyfrgell!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
funding
Busnes ac addysg

Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English