Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhagor o eira ar ei ffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Rhagor o eira ar ei ffordd
Y cyngor

Rhagor o eira ar ei ffordd

Diweddarwyd diwethaf: 2019/01/30 at 3:53 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Snow
RHANNU

Rydym yn disgwyl rhagor o eira prynhawn yfory, ac mae’n debygol o fod yn “sylweddol” ac yn “peri trafferth”.

Cynnwys
“Caiff y priffyrdd eu clirio mor fuan â phosibl”“Fe fyddwn yn graeanu cyn i ni wagio biniau mewn ystadau tai”“Cau ysgolion”Helpwch lle gallwch

Bydd yn cyrraedd o ganol y bore, ac mae’n bosib y byddwch yn gofyn a fydd y bysiau yn rhedeg? A fydd biniau yn cael eu gwagio? A fydd ysgolion ar agor?

Gall eira a rhew achosi problemau ar draws y fwrdeistref sirol ac hyd yn oed ar draws y DU, yn enwedig mewn tywydd eithriadol o wael. Rydym wedi paratoi, a thrwy gydol cyfnod y gaeaf ac at y gwanwyn, mae gennym ragolygon tywydd lleol dyddio

Rydym yn paratoi ar gyfer yr eira heddiw trwy barhau i raeanu’r ffyrdd, ac fe fyddwn yn parhau i wneud hyn nes y bydd y tywydd yn gwella. Caiff penderfyniad ei wneud yn y bore o ran a fydd casgliadau biniau yn digwydd, ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol os oes unrhyw newidiadau.

Os yw eich biniau a’ch deunyddiau ailgylchu i fod i gael ei casglu yfory, rhowch nhw allan fel arfer.

WEDI METHU CASGLIAD BIN? GADEWCH I NI WYBOD.

“Caiff y priffyrdd eu clirio mor fuan â phosibl”

Fel pob awdurdod lleol arall, nid ydym ni’n graeanu na symud yr eira oddi ar bob ffordd, ond rydym ni’n sicrhau bod ein priffyrdd yn cael eu clirio cyn gynted â phosibl. Gall hyn fod yn anodd weithiau yn enwedig os ydi’r eira yn parhau i ddisgyn. Gallwch weld ein llwybrau graeanu yma.

“Fe fyddwn yn graeanu cyn i ni wagio biniau mewn ystadau tai”

Gall tywydd oer achosi amhariadau i’ch gwasanaeth bin gan fod gyrru cerbyd mawr ar lonydd cul yn gallu bod yn beryglus i’r gweithlu ac i’r cyhoedd. Fe gaiff casgliadau bin eu hatal mewn ardal benodol o dro i dro am y rheswm yma. Pan allwn ni, rydym ni’n anfon y cerbyd graeanu allan cyn y lori biniau i sicrhau y gallwn ni barhau cyn hired â phosibl.

“Cau ysgolion”

Fe all ein hysgolion gael eu cau oherwydd y tywydd, fe allant benderfynu bod yr ardal yn beryglus i blant neu efallai na allant gael digon o staff i’w weithredu’n ddiogel. Os penderfynir cau’r ysgolion, mae gwybodaeth i’w weld ar ein gwefan yma:

Efallai bod eich plentyn yn teithio i’r ysgol ar fws ac fe ddylech sicrhau eich bod yn gwybod gyda pha gwmni y maent yn teithio, ac fe ddylech gadw eu rhif ffôn, e-bost neu fanylion eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol wrth law i wirio’n uniongyrchol gyda nhw os ydynt yn gweithredu eu gwasanaeth arferol.

Os na allwn ni ddod i wagio eich biniau, fe fyddwn ni’n defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i’ch hysbysu cyn gynted â phosibl.

twitter.com/cbswrecsam | twitter.com/wrexhamcbc

facebook.com/cyngorwrecsam | facebook.com/wrexhamcouncil

Defnyddiwch #wxmgrit i weld os fydd ein graeanwyr yn mynd allan.Helpwch lle gallwch.

Helpwch lle gallwch

Cynghorir trigolion hefyd i wirio bod eich cymdogion yn iawn – yn arbennig unrhyw drigolion hŷn, anabl neu rai sy’n agored i niwed.

Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i helpu, ond gall gwyntoedd cryfion, rhew ac eira fod yn anodd i bobl agored i niwed wrth iddynt geisio gwneud tripiau dyddiol hawdd, fel picio i’r siopau neu’r swyddfa bost.

Gallai galw heibio’n sydyn neu gynnig help wneud gwahaniaeth mawr i rywun nad ydynt yn gallu mynd allan ar eu pen eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae llawer o bobl yn ein cymunedau sy’n cael trafferth yn ystod y misoedd oerach, ac ni ddylem danamcangyfrif faint o wahaniaeth y gall rhywbeth bach ei wneud i fywyd rhywun.

“Mae cymaint o ffyrdd hawdd i helpu – helpu gyda siopa, mynd â phryd o fwyd poeth neu dim ond galw mewn am sgwrs. Rydym yn gofyn i breswylwyr gymryd dim ond ychydig o funudau i alw heibio gymdogion, ffrindiau a pherthnasau.”

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-525d4591-1e82-4383-921f-0eaadd6c7ff0/AF-Stage-d4b0718f-3b6a-4103-a4b7-3ae96da19278/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Tŷ Pawb eisiau eich bysedd gwyrdd! Mae Tŷ Pawb eisiau eich bysedd gwyrdd!
Erthygl nesaf Gwelliannau Cyflym” yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni Gwelliannau Cyflym” yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English