Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r gaeaf ar ei ffordd – sut ydym ni’n paratoi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’r gaeaf ar ei ffordd – sut ydym ni’n paratoi?
Pobl a lleY cyngor

Mae’r gaeaf ar ei ffordd – sut ydym ni’n paratoi?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 18, 2017 12:04 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae’r gaeaf ar ei ffordd – sut ydym ni’n paratoi?
RHANNU

Fydd hi ddim yn hir nes bydd y clociau’n cael eu troi’n ôl. Mae’r dydd yn byrhau ac mae’n oeri.

Cynnwys
  • “Yn Barod ac wedi Paratoi”
  • Helpwch lle gallwch

Gyda’r gaeaf ar y ffordd a thywydd garw yn dod yn fwyfwy tebygol, mae’n naturiol fod pobl eisiau gwneud yn siŵr fod gennym drefniadau yn eu lle er mwyn helpu pobl i ymdopi ag amodau gwael.

Y peth cyntaf mae pobl yn tueddu i boeni amdano yw’r ffyrdd, a sut gallant fynd allan os bydd rhew ac eira.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Rydym am sicrhau fod y fwrdeistref sirol yn parhau i weithio ac y gall pobl gyrraedd lle maent am fynd.

Mae gennym fflyd o 10 o gerbydau graeanu, a 30 o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed o’n tîm Strydwedd, sy’n camu mewn i yrru’r cerbydau hynny – dros nos weithiau – pan fydd y tywydd yn gwaethygu.

Am fwy o wybodaeth, gwyliwch y fideo isod:

Mae’r penderfyniad os byddant yn mynd allan ai peidio yn cael ei wneud yn ddyddiol, yn seiliedig ar ragolygon y tywydd, fel na fyddant yn methu dim.

Maent yn dilyn 11 taith amrywiol drwy’r fwrdeistref sirol, sy’n cynnwys llwythi o ffyrdd preswyl, ffyrdd gwledig a phriffyrdd – gan gynnwys yr A483 a’r A5.

Gall y cyhoedd gadw llygad ar y cerbydau graeanu drwy ddilyn ein cyfrif Twitter a chwilio am yr hashnod #wxmgrit.

Rydym hefyd yn rhoi nodiadau atgoffa ar y system MyUpdates, sy’n anfon negeseuon e-bost yn uniongyrchol at bobl sydd wedi tanysgrifio.

“Yn Barod ac wedi Paratoi”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel adran rydym yn paratoi at dymor y gaeaf. Mae hyfforddiant gweithredu yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

“Yn ogystal â chlirio prif briffyrdd, rydym yn blaenoriaethu ein llwybrau, fel llety gwarchod a llwybrau i’r ysgol. Mae manylion ein llwybrau blaenoriaeth ar gael ar ein gwefan.

“Rydyn ni hefyd yn rhannu cronfa o gerbydau sy’n fwy cymwys i ddelio ag amodau tywydd garw i sicrhau bod gofal yn gallu cyrraedd y bobl fwyaf diamddiffyn.”

Helpwch lle gallwch

Cynghorir trigolion hefyd i wirio bod eich cymdogion yn iawn – yn arbennig unrhyw drigolion hŷn, anabl neu rai sy’n agored i niwed.

Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i helpu, ond gall gwyntoedd cryfion, rhew ac eira fod yn anodd i bobl agored i niwed wrth iddynt geisio gwneud tripiau dyddiol hawdd, fel picio i’r siopau neu’r swyddfa bost.

Gallai galw heibio’n sydyn neu gynnig help wneud gwahaniaeth mawr i rywun nad ydynt yn gallu mynd allan ar eu pen eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae llawer o bobl yn ein cymunedau sy’n cael trafferth yn ystod y misoedd oerach, ac ni ddylem danamcangyfrif faint o wahaniaeth y gall rhywbeth bach ei wneud i fywyd rhywun.

“Mae cymaint o ffyrdd hawdd i helpu – helpu gyda siopa, mynd â phryd o fwyd poeth neu dim ond galw mewn am sgwrs. Rydym yn gofyn i breswylwyr gymryd dim ond ychydig o funudau i alw heibio gymdogion, ffrindiau a pherthnasau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Lowe: “Byddwn hefyd yn argymell y dylai pobl gysylltu â’r Meddyg er mwyn trefnu eu brechiad rhag y ffliw cyn gynted ag y mae hynny yn bosib – yn enwedig pobl fregus ac oedrannus.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14 – 21 Hydref Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb –14 – 21 Hydref
Erthygl nesaf Stryt Las Fedrwch chi helpu i lanhau Stryt Las

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English