Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bws Diogelwch Seiber i Ymweld â Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Bws Diogelwch Seiber i Ymweld â Wrecsam
Arall

Bws Diogelwch Seiber i Ymweld â Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 4, 2019 2:59 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Bws Diogelwch Seiber i Ymweld â Wrecsam
RHANNU

Erthygl gwestai gan Heddlu Gogledd Cymru

Cynnwys
  • “Mae mwy na £190,000 y dydd yn cael ei golli”
  • “Pum cam allweddol i gynyddu seiberddiogelwch“

Mae Seiberddiogelwch yn bwysig i fusnesau, grwpiau ac unigolion ac mae yna gyfle i wybod mwy am sut i aros yn ddiogel ar-lein ar 8 Mawrth pan fydd bws gwybodaeth seiber gydag offer arbenigol yn dod i Wrecsam fel rhan o daith genedlaethol.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Bydd y bws yn cael ei staffio gan Swyddogion Seiberddiogelwch yr Heddlu dwyieithog ac arbenigwyr seiber yn ogystal â phartneriaid fel Cadw’n Ddiogel Ar-Lein a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol.  Bydd yr oriau gwaith rhwng canol dydd ac 8.00pm ar gyfer y sawl sy’n methu bod yn bresennol yn ystod oriau gwaith.

“Mae mwy na £190,000 y dydd yn cael ei golli”

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Action Fraud yn dangos bod dioddefwyr seiber-drosedd yn colli mwy na £190,000 y dydd yn y DU.  Roedd dros trydedd rhan o’r dioddefwyr yn y cyfnod hwnnw yn dioddef hacio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost.

Mae Action Fraud hefyd yn dweud bod £34.6 miliwn wedi’i ddwyn gan ddioddefwyr rhwng Ebrill a Medi 2018, 24% o gynnydd ers y chwe mis blaenorol.

Mae Heddlu Dinas Llundain, sy’n gweithredu Action Fraud, wedi rhybuddio pobl i gadw cyfrineiriau ar wahân ar gyfer cyfrifon ar-lein.

Mae ffigyrau yn dangos bod 13,357 o bobl yn y DU wedi rhoi gwybod am seiber-droseddau yn ystod y chwe mis diwethaf ac roedd dros 5,000 o’r bobl hynny wedi eu hacio drwy eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac e-bost, cost o £14.8miliwn i ddioddefwyr.

Mae’r bws yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Tarian yr Uned Trosedd Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCU) De Cymru ynghyd â ROCU’r Gogledd Orllewin.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Symon Kendall o Tarian: “Rydym yn anelu i ddefnyddio’r bws i siarad gydag unrhyw un â diddordeb mewn uwchsgilio eu hunain a gallwn ddangos sgampiau a haciau.

“Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ar wahân mewn eiddo cyfagos i fusnesau a’r cyhoedd lle cynhelir cyflwyniadau seiberddiogelwch mwy ffurfiol ac ymarferion gwydnwch seiber busnes

“Pum cam allweddol i gynyddu seiberddiogelwch“

“Amcangyfrifir y gellir lleihau bregusrwydd i seiberddiogelwch hyd at 80% drwy gymryd pum cam allweddol i gynyddu seiberddiogelwch.  Rydym yn cydnabod bod y mwyafrif o ymgyrchoedd yn dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth gwefan a mynychir y mwyafrif o ddigwyddiadau seiberddiogelwch gan y sawl â diddordeb mewn seiberddiogelwch.   O ganlyniad nid ydym yn cyrraedd at y cyhoedd a busnesau bach.   Mae’r prosiect hwn wedi’i ddylunio i geisio gwella hyn.

“Rydym yn gwybod bod yna ddiffyg adrodd sylweddol am seiberdroseddu yn genedlaethol ac mae hyn yn effeithio ar ein gallu i oresgyn y bygythiad a thrwy hybu Action Fraud a’r Ganolfan Adrodd am Dwyll a Seiberdroseddu Cenedlaethol byddwn yn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.

“Y nod cyffredinol yw cynnwys diogelwch a gwydnwch seiber yn genedlaethol fydd yn ei dro yn gwneud Cymru yn fwy seiber-wydn yn genedlaethol lle mae’n fwy diogel i ymgymryd â busnes ar-lein.”

Cofiwch y dyddiad – 8 Mawrth rhwng 2pm a 5pm ar Sgŵar y Frenhines.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 scams on your doorstep Peidiwch â chael eich twyllo gan alwyr digroeso
Erthygl nesaf Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau..... Ailgylchu Gwastraff Bwyd? Ateb eich cwestiynau…..

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English