Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall Amgueddfa Pêl-droed Cymru ddod i Amgueddfa Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall Amgueddfa Pêl-droed Cymru ddod i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Gall Amgueddfa Pêl-droed Cymru ddod i Amgueddfa Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 10, 2019 3:14 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Life Under Lockdown
RHANNU

Mae swyddogion Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mai Amgueddfa Wrecsam yw’r opsiwn a ffefrir am gartref i Amgueddfa Pêl-droed Cymru.

Cynnwys
  • Mae gan yr amgueddfa botensial ryngwlado
  • “Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru”

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan Dafydd Elis Thomas AC, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cafodd y cynigion ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed Genedlaethol eu crybwyll gan Lywodraeth Cymru yn yr haf, gyda’r nod o weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i arddangos hanes pêl-droed Cymru mewn lleoliad priodol.

Wrecsam ydi cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru gyda chysylltiadau hanesyddol cryf â Chymdeithas Bêl-droed Cymru; yn wir, sefydlwyd y gymdeithas mewn cyfarfod yn y Wynnstay Arms ar Stryt Yorke yn 1876.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Mae’r cynigion ar gyfer yr Amgueddfa ymysg nifer o brosiectau pêl-droed sy’n digwydd yn Wrecsam, gan gynnwys:

  • Gwella porth Ffordd yr Wyddgrug sy’n arwain i mewn i’r dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r Cae Ras;
  • Canolfan datblygu pêl-droed newydd ym Mharc y Glowyr;
  • Gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu canolfannau pêl-droed cymunedol newydd;
  • Gwaith gan y Cyngor a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer cae hyfforddi

Mae Amgueddfa Wrecsam wedi dangos diddordeb mewn pêl-droed ers peth amser, gan gaffael Casgliad Pêl-droed Cymru yn 2000 trwy gymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae wedi bod yn ddymuniad i gynnal arddangosfa barhaol am y gêm ers hynny.

Y gobaith yw y bydd adeilad yr amgueddfa yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru a chreu gofod mwy ar gyfer Amgueddfa Wrecsam trwy ddefnyddio’r gofod sydd ar gael ar lawr cyntaf yr adeilad.

Mae gan yr amgueddfa botensial ryngwlado

Dywedodd Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n bendant yn croesawu’r newyddion yma, ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweld potensial Amgueddfa Wrecsam fel cartref i Amgueddfa Pêl-Droed Cymru.

“Diolch i berfformiad y tîm cenedlaethol, mae pêl-droed Cymru wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb dros y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad mae gan yr amgueddfa hon y potensial i ddod yn atyniad rhyngwladol yn ogystal ag un cenedlaethol.

“Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym ni wrth ein bodd efo’r newyddion yma. Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yr ydym ni’n ymfalchïo ynddynt, ac mae’n braf cael gwybod y bydd yr etifeddiaeth honno gyda’r potensial i barhau i’r dyfodol gyda’r posibilrwydd o Amgueddfa Pêl-Droed Cymru yn dod i Wrecsam.

“Bydd datblygiad yr amgueddfa newydd hefyd yn golygu y gallwn barhau i ddatblygu Amgueddfa Wrecsam – un o nodau’r amgueddfa oedd cael rhyw fath o arddangosfa am hanes pêl-droed yng Nghymru, oherwydd y cysylltiad cryf â’r dref, a byddwn yn parhau i arddangos hyn ochr yn ochr â’r amgueddfa newydd.

“Mae swyddogion a chynrychiolwyr Cyngor Wrecsam wedi bod yn trafod hyn ers peth amser gyda Llywodraeth Cymru a’r ymgynghorwyr, ac maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod yr amgueddfa yn dod i Wrecsam, ac felly hoffaf ddiolch iddynt, ac ar ran y Bwrdd Gweithredol, am eu hymroddiad.”

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Trafod rhannu Teledu Cylch Caeëdig gyda Chyngor Sir y Fflint Trafod rhannu Teledu Cylch Caeëdig gyda Chyngor Sir y Fflint
Erthygl nesaf Cystadleuaeth gerddi hardd Cystadleuaeth gerddi hardd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English