Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Partneriaid yn cyhoeddi gweledigaeth am gynllun adfywio mawr ar gyfer porth Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Partneriaid yn cyhoeddi gweledigaeth am gynllun adfywio mawr ar gyfer porth Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lle

Partneriaid yn cyhoeddi gweledigaeth am gynllun adfywio mawr ar gyfer porth Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 3, 2019 4:22 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Partneriaid yn cyhoeddi gweledigaeth am gynllun adfywio mawr ar gyfer porth Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam
RHANNU

Cafodd y weledigaeth am brif gynllun adfywio mawr, sydd â’r nod o adfywio porth Ffordd yr Wyddgrug mewn i Wrecsam ei gyhoeddi heddiw, gyda chefnogaeth gan bedwar prif gefnogwr.

Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam eu gweledigaeth ar gyfer Prosiect Porth Wrecsam heddiw – cynllun dinesig ac economaidd ar raddfa fawr er mwyn ailddatblygu ardal fawr ger coridor Ffordd yr Wyddgrug, un o’r prif ffyrdd mewn i’r dref.

Y weledigaeth ar gyfer y prosiect ydi sicrhau adfywiad llewyrchus ar gyfer yr ardal, creu hwb i gefnogi buddsoddiad mewn busnes; cefnogi seilwaith academaidd, tai a chwaraeon; a chreu gofod cyhoeddus gwerthfawr sydd yn cysylltu â chanol tref Wrecsam.

Mae prif elfennau’r prosiect yn cynnwys datblygu cyfnewidfa fawr ar gyfer cludiant cyhoeddus yng Ngorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam; ailddatblygu pen ‘Kop’ yn Stadiwm y Cae Ras yn ogystal â datblygiad ehangach y Cae Ras; creu lleoliad gynadledda mawr a phwysig yn rhanbarthol, a llawer mwy.

Un o’r prif nodau a nodir yn y weledigaeth ydi adfywio pen y ‘Kop’ yn Stadiwm y Cae Ras, gyda’r nod o ddarparu eisteddle newydd i ddarparu mwy na 15,000 o seddi yn y Stadiwm, a helpu i wireddu potensial y stadiwm fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac fel stadiwm aml swyddogaeth y gellir ei defnyddio drwy gydol y flwyddyn sydd yn gallu llwyfannu chwaraeon o safon ryngwladol.

Mae’r prosiect hefyd yn gobeithio gwella cysylltiadau teithiau llesol i orsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, a chefnogi creu canolfan deithio integredig a rhoi hwb i gyfleoedd cyflogaeth – gan gynnwys mannau gwell i ollwng a chasglu teithwyr bysiau, a darparu mynediad gwell i gerddwyr.

Bydd aelodau o Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn trafod y prif gynllun ddydd Mawrth 9 Gorffennaf, a bwriedir trafod y mater â budd-ddeiliaid os caiff y weledigaeth ei chymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n gadarnhaol iawn am y nodau sydd wedi’u hamlinellu ym mhrif gynllun coridor Ffordd yr Wyddgrug. Mae’n ddarn o waith uchelgeisiol iawn a fydd yn rhan bwysig o adfywio Wrecsam, a dwi’n falch iawn nodi fod gennym bartneriaid allweddol cryf yn cydweithio â ni i gyflawni’r nodau hyn.

“Mae yna brosiectau posibl gwych wedi’u nodi yn y prif gynllun, ond ni fydd modd i ni eu cyflawni ar ein pen ein hunain – a dyna pam, ac os cânt eu cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, byddwn yn trafod y syniad â budd-ddeiliaid allweddol ar y weledigaeth, a sut yn eu barn nhw y gallwn ni gyrraedd y nodau yma.”

Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam: “Dwi’n falch iawn y gallwn gyhoeddi gweledigaeth Partneriaeth Porth Wrecsam, sydd â’r potensial o ddenu â gwerth miliynau o bunnoedd o waith adfywio mewn i Wrecsam.

“Er ei fod yn uchelgeisiol, gellir gwireddu’r golau sydd wedi’u nodi yn ein gweledigaeth trwy’r bartneriaeth, a bydd y cynlluniau yn cyfuno nifer o elfennau allweddol cyffrous ar draws isadeiledd busnes, academaidd, tai a chwaraeon.”

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Bydd adfywio Ffordd yr Wyddgrug yn gwella’r porth mewn i Wrecsam ar gyfer preswylwyr, myfyrwyr ac ymwelwyr. Mae hyn yn bwydo mewn i’n Strategaeth Campws 2025 sydd yn ymwneud â’r brifysgol a Wrecsam ar gyfer ffyniant y dref yn y dyfodol.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru: “Nod y cynlluniau sydd ar y gweill gan Bartneriaeth Porth Wrecsam ydi cyflwyno newid trawsnewidiol ar lefel lleol a rhanbarthol.

“Mae yna lawer o waith o’n blaenau a gyda’n gilydd mae gennym gyfle i gyflawni cysylltedd gwell o fewn Wrecsam ac ar draws yr ardal ehangach yn ogystal â chreu eiddo busnes a allai yrru twf economaidd cryf.

“Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cynigion i ddatblygu’r Cae Ras a fyddai yn golygu ei fod yn gyfleuster sydd yn cynnig mwy o weithgareddau o fewn cymuned Wrecsam ochr yn ochr â denu rhagor o ddigwyddiadau rhyngwladol a darparu cartref i’r clwb pêl-droed sydd yn barod at y dyfodol. Mae Prosiect Porth Wrecsam yn ddatblygiad uchelgeisiol a chyffrous a dwi’n awyddus iawn i fwrw ymlaen gan gydweithio gyda’n partneriaid.

Dywedodd Spencer Harris, Cyfarwyddwr CPD Wrecsam: “Yn ogystal â bod yn gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam, mae’r Cae Ras yn ased o bwysigrwydd strategol i Gymru. Ynghyd â’n partneriaid yn y weledigaeth hon, rydym yn gyffrous iawn am y prosiect adfywio yma, gan gynnwys y potensial i sicrhau bod y stadiwm yn opsiwn hyfyw ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol.

“Gan ein bod yn eiddo i gymdeithas mantais gymunedol, mae’n haeddiannol y byddai nodau’r prosiect yma’n rhoi manteision sylweddol i Wrecsam a’r rhanbarth.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi wedi cymryd rhan eto? Ydych chi wedi cymryd rhan eto?
Erthygl nesaf Cylchfan Gresffordd – penwythnos olaf o waith Cylchfan Gresffordd – penwythnos olaf o waith

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English