Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adroddiadau am fwy o sgamiau diwahoddiad dros y ffôn – byddwch yn ymwybodol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Women's Health Event 2026
Digwyddiad Iechyd Menywod 2026
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham cemetery
Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Advanced manufacturing
Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Adroddiadau am fwy o sgamiau diwahoddiad dros y ffôn – byddwch yn ymwybodol
Arall

Adroddiadau am fwy o sgamiau diwahoddiad dros y ffôn – byddwch yn ymwybodol

Diweddarwyd diwethaf: 2019/08/02 at 10:02 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cold Call Scam Phone
RHANNU

Cafwyd adroddiadau yn ddiweddar bod pobl ddiamddiffyn (yn enwedig pobl oedrannus) yn ardal Gogledd Cymru yn cael eu twyllo gan alwyr diwahoddiad sy’n honni eu bod yn gweithio i fanc neu ddarparwr gwasanaeth. Cynghorir trigolion Wrecsam i fod yn wyliadwrus.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod twyllwyr mor bell ag Affrica wedi bod yn ffonio’r bobl ddiamddiffyn i gael gwybodaeth bersonol ganddyn nhw. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i’r twyllwr gael mynediad at fanylion banc yr unigolyn, neu gymryd rheolaeth ar gyfrifiadur yr unigolyn a’u twyllo.

Mae hwn yn fath hir o dwyll, y gelwir yn aml yn sgâm ‘Nigerian 419’ oherwydd ei darddiad. Daw ‘419’ o adran yng Nghod Troseddol Nigeria sy’n gwahardd yr arfer hwn. Mae sgamiau o’r math hwn bellach yn digwydd dros y byd i gyd.

Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i BEIDIO â sgwrsio ag unrhyw alwyr diwahoddiad sy’n gofyn am wybodaeth bersonol. Rhowch wybod am unrhyw alwadau amheus i Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu i Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i beidio â chael eich twyllo…

• Peidiwch BYTH â rhannu manylion personol gyda galwyr diwahoddiad
• Ceisiwch gyngor annibynnol gan rywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo os oes gennych chi amheuaeth
• Os bydd rhywun yn dweud ei fod o sefydliad penodol, sicrhewch eich bod yn gwirio eu hunaniaeth drwy ffonio’r sefydliad perthnasol yn uniongyrchol

Nid dim ond dros y ffôn y mae’r sgamiau hyn yn digwydd chwaith…os cewch lythyr, neges e-bost, neges destun, neu hyd yn oed neges ar gyfryngau cymdeithasol, dilynwch y camau cywir i aros yn ddiogel.

Cofiwch, os ydych chi eisiau adrodd am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref Mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref
Erthygl nesaf Gosod sylfaen i ddefnyddio calch mewn cwrs am ddim Gosod sylfaen i ddefnyddio calch mewn cwrs am ddim

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Women's Health Event 2026
Digwyddiad Iechyd Menywod 2026
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Chwefror 3, 2026
Wrexham cemetery
Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 2, 2026
Advanced manufacturing
Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg Chwefror 2, 2026
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
JC Edwards Wall and Public Garden site
Pobl a lleArall

Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor

Rhagfyr 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English