Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mwy na 100,000 o ymwelwyr yn dod i ganol y dref yn yr haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mwy na 100,000 o ymwelwyr yn dod i ganol y dref yn yr haf
Busnes ac addysgPobl a lle

Mwy na 100,000 o ymwelwyr yn dod i ganol y dref yn yr haf

Diweddarwyd diwethaf: Medi 14, 2017 5:01 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
wrexham
RHANNU

Rydym eisoes wedi edrych ar nifer o fusnesau o amgylch y dref ar y blog hwn, gan gynnwys Café in the Corner, Mad4Movies, Just Desserts, Wrexham.com a King Street Coffee.

Dywedodd llawer o’r rhai a gafodd eu cyfweld fod gwerthiant yn dda a mynegwyd positifrwydd am y gwelliannau i ganol y dref.

Ac mae mwy o newyddion da i ganol y dref gan fod y nifer uchaf erioed o ymwelwyr wedi ymweld â chanol y dref mewn un wythnos yr haf hwn.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Daeth mwy na 100,000 o ymwelwyr i ganol y dref yn ystod wythnos ym mis Awst, gan gyrraedd yr uchafbwynt yn ystod gwyliau haf yr ysgolion.

Cyrhaeddodd nifer yr ymwelwyr ar y stryd fawr 102,487 yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Sul, Awst 13, gyda’r nifer o ymwelwyr uchaf mewn diwrnod – 17,462 – ddydd Sadwrn, Awst 19.

Caiff y nifer o ymwelwyr ei gyfrif gan beiriant cyfrif cerddwyr newydd ar gornel Stryt yr Hôb a Stryt Y Rhaglaw.

“arwydd pellach o hyder yng nghanol ein tref”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn o weld fod y ffigwr wythnosol wedi pasio 100,000 – mae hynny’n wych am un wythnos.

“Rydym fel arfer yn disgwyl nifer dda o ymwelwyr yn ystod gwyliau’r haf, ond mae hyn yn wirioneddol ardderchog, ac rwy’n gobeithio ei fod yn arwydd pellach o hyder yng nghanol ein tref ac yn anogaeth i’r rheiny sy’n masnachu, neu sydd am fasnachu, yn Wrecsam.

“Bydd ffigyrau mwy manwl gennym erbyn diwedd y chwarter a bydd y ffigyrau hynny yn gymorth i ni edrych pa effaith uniongyrchol mae’r lefel uchel yma o ymwelwyr wedi ei gael ar fasnachwyr ac incwm cyffredinol, felly gallwn ddisgwyl canfyddiadau diddorol pan ddaw’r ffigyrau hynny yn ôl.”

Yn dilyn dadansoddiad o berfformiad Stryd Fawr Wrecsam gan Brifysgol Metropolitan Manceinion yn ôl yn 2014, cynigiwyd nifer o argymhellion a’r llynedd, sefydlwyd grŵp llywio newydd canol tref newydd i weithredu’r cynllun 25 pwynt ar gyfer y dref.

Un o’r amcanion hyn oedd edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer yr ymwelwyr, drwy fentrau megis gwella golwg y dref ynghyd â datblygu digwyddiadau newydd.  Mae’r data o’r peiriant cyfrif electronig newydd a osodwyd ar Stryd yr Hôb wedi bod yn bwydo cyfrifiadau wythnosol i’r tîm Rheoli Canol Tref.

Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd yn y prosiect wedi’u lledaenu ar draws canol y dref ac mae eu ffigurau gwerthu (wedi’u rhoi fel canran cynnydd neu leihad) yn cael eu cyflwyno bob dydd Mercher. Mae’r data yn cael eu prosesu ac anfonir adroddiad gwerthiannau i bob busnes yn dangos sut mae eu gwerthiannau wedi bod yn erbyn canol y dref. Hefyd maent yn cael golwg cyffredinol o werthiannau a nifer yr ymwelwyr yn Wrecsam.

Mae’r tîm nawr yn gobeithio gosod peiriannau cyfrif ychwanegol mewn rhannau eraill o’r dref fel y maent yn parhau i gasglu rhagor o wybodaeth i gefnogi mentrau yn y dyfodol, ac yn natblygiad y dref fel lleoliad cystadleuol.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion Gwych i King Street Coffee Newyddion Gwych i King Street Coffee
Erthygl nesaf Mae Steve wedi ennill gyda'i lun o'r bont gamlas Mae Steve wedi ennill gyda’i lun o’r bont gamlas

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English