Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth am fynd allan i chwarae yr hanner tymor hwn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Beth am fynd allan i chwarae yr hanner tymor hwn?
Pobl a lleY cyngor

Beth am fynd allan i chwarae yr hanner tymor hwn?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2019 4:05 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Autumn
RHANNU

Mae gan ein Tîm Chwarae sawl prosiect Gwaith Chwarae ar y gweill i gadw pobl ifanc yn brysur yn ystod gwyliau’r hanner tymor.

Cynnwys
  • “Mwynhau chwarae a chael hwyl”
  • “Beth os ydi’r tywydd yn arw?”
  • “Sut ydw i’n cofrestru fy mhlentyn?”

Maent i gyd am ddim, ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Maent yn 2 i 3 awr o hyd, ac wedi’u targedu at blant rhwng 5 ac 15 mlwydd oed, ond gall blant dan 5 fynd i’r sesiynau gyda rhiant neu ofalwr priodol.

Mae chwarae yn bwysig i blant. Mae’n helpu eu datblygiad yn gorfforol ac yn emosiynol, mae’n gymorth iddynt gadw’n heini, maent yn dysgu sgiliau datrys problemau ac yn archwilio sut mae pethau’n gweithio. Maent yn datblygu sgiliau cymdeithasol, yn dysgu rhannu ac yn dod i delerau gydag anawsterau gwahanol, ond yn bwysicaf oll dyma mae plant yn ei ddweud wrthym maent yn ei fwynhau.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

“Mwynhau chwarae a chael hwyl”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Rydym eisiau i’n plant fynd allan i’r awyr agored yn ystod y gwyliau a mwynhau chwarae a chael hwyl. Mae sawl sesiwn gwaith chwarae wedi cael eu trefnu, ond mae gennym nifer o ofodau gwyrdd lle gall ein plant gicio pêl, cnocio concyrs, chwarae tic neu chael hwyl gyda’u ffrindiau. Mae mynd tu allan llawer gwell nag eistedd ar y soffa gyda theclynnau, felly beth am annog ein pobl ifanc i fynd allan a chael hwyl yn ystod yr hanner tymor hwn.

“Lle maent yn cael eu cynnal?

Abenbury rhwng 11am ac 1pm dydd Mawrth a dydd Iau ym Mhentre Maelor (maes chwarae).

Borras rhwng 11am ac 1pm dydd Iau 31 Hydref, ar y cael chwarae rhwng Huntsman’s Corner a Lake View.

Cefn ac Acrefait rhwng 11am ac 1pm dydd Llun a dydd Mercher ym Mharc Plas Kynaston (drws nesaf i’r llyfrgell) a dydd Gwener ar gae chwarae Ysgol Acrefair.

Coedpoeth rhwng 2pm a 4pm dydd Mawrth a dydd Iau ar Gae Adwy.

Gwersyllt rhwng 2pm a 4pm dydd Llun, dydd Mawrth ym Mharc Pending, dydd Mercher a dydd Iau ar gaeau Bradle. Dydd Gwener yn Ffordd Newydd, Brynhyfryd.

Offa rhwng 2pm a 4pm ddydd Mawrth yn Luke O’Connor House, dydd Mercher ar Faes Chwarae Bryncabanau, dydd Iau a dydd Gwener yn y Parciau.

Rhos a Johnstown rhwng 2pm a 4pm dydd Llun, dydd Mawrth yn Morton Circle, Dydd Mercher yn Bryn y Brain, dydd Iau a dydd Gwener ym Mharc Ponciau.

Brymbo rhwng 11am ac 1pm dydd Llun, dydd Mawrth yn Cheshire View, dydd Mercher yn Miller Road, dydd Iau a dydd Gwener yng Nghae Merfyn, Tanyfron.

Rhosddu rhwng 11am ac 1pm dydd Llun yn Garden Road, tu allan i Fyddin yr Iachawdwriaeth, dydd Mawrth ym Mharc Ashfield, tu ôl i’r Ganolfan Dennis, dydd Mercher ym maes y pentref, Garden Village, o flaen Ysgol Wat’s Dyke, dydd Iau a dydd Gwener ym Mharc Sglefrio Prices Lane.

Nid yw’r prosiectau yn cynnig gofal plant ffurfiol, a gall plant fynd â dod fel y mynnent. Nid yw’r gweithwyr chwarae yn gyfrifol am gadw’r plant ar y safle felly cyfrifoldeb y rhieni/gofalwyr unigol a’u plant ydi cytuno ar y trefniadau.

“Beth os ydi’r tywydd yn arw?”

Mae’r prosiect yn bwriadu cymryd mantais o bob tywydd, a bydd gwahanol gyfleoedd i chwarae beth bynnag fo’r tywydd. Ond gall hyn greu llanast, felly sicrhewch bod eich plentyn yn gwisgo dillad cyfforddus sy’n cael mynd yn fudr.

“Sut ydw i’n cofrestru fy mhlentyn?”

Mae cofrestru eich plentyn yn rhwydd. Y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydi llenwi ffurflen gofrestru a’i rhoi i’r gweithiwr chwarae. Byddwn yn gofyn am wybodaeth am eich plentyn, megis rhifau ffôn mewn argyfwng.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymgeisio i aros yn y DU ar ôl Brexit? Mae cymorth a chyngor ar gael... Ymgeisio i aros yn y DU ar ôl Brexit? Mae cymorth a chyngor ar gael…
Erthygl nesaf Parti Calan Gaeaf ar Sgwâr y Frenhines Parti Calan Gaeaf ar Sgwâr y Frenhines

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English