Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peintio negeseuon ar ffyrdd i ddiolch i’n gweithwyr allweddol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Peintio negeseuon ar ffyrdd i ddiolch i’n gweithwyr allweddol
Arall

Peintio negeseuon ar ffyrdd i ddiolch i’n gweithwyr allweddol

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 29, 2020 11:57 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Thank you key workers
RHANNU

Mae pobl wedi bod yn meddwl am bob mathau o ffyrdd i ddweud ‘diolch’ wrth weithwyr y rheng flaen dros yr wythnosau diwethaf.

A heddiw, mae Wrecsam wedi dod o hyd i ffordd arall o dalu teyrnged i’r bobl anhygoel yma…

Mae negeseuon yn dweud ‘Diolch i’r GIG’ – yn ogystal â baner siâp calon â lliwiau’r enfys arni – wedi cael eu peintio ar wynebau Ffordd Ddyfrllyd a Ffordd Croesnewydd, gerllaw Ysbyty Maelor.

Ac mae neges yn dweud ‘Diolch’ i bob gweithiwr allweddol arall ar y rheng flaen wedi cael ei pheintio ar wyneb Ffordd yr Wyddgrug, sef un o’r ffyrdd allweddol i mewn ac allan o ganol y dref.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

“Dewrder a charedigrwydd”

Mewn datganiad ar y cyd, dywed Arweinydd y Cyngor Mark Pritchard a’r Dirprwy Arweinydd David A Bithell, bod y marciau ffordd yn ddull bach arall o dalu teyrnged i’r bobl sy’n mynd y tu hwnt i’r galw yn ystod argyfwng Covid-19…

“Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bawb, ond mae gweld negeseuon o gefnogaeth i weithwyr allweddol gan bobl o bob cwr o Wrecsam yn ysbrydoledig iawn.

“Mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor falch ydym ni – fel bwrdeistref sirol – o weithwyr allweddol. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pawb … yn ein helpu i gadw’n ddiogel a darparu popeth sydd ei angen arnom.

“Mae eu dewrder a’u caredigrwydd wedi gwneud i ni gyd deimlo’n ddiymhongar…ac er bod dweud ‘diolch’ yn ymddangos yn rhywbeth bach, mae’n rhywbeth y gallwn ei wneud i roi gwybod i’r bobl yma cymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi.

“Mae’r hyn y maent yn ei wneud yn anhygoel ac mae’r marciau ffordd hyn yn ddull bach arall o ddweud ‘diolch’ – ar ran y cyngor a Wrecsam gyfan.”

Mae’r gost o beintio negeseuon ar wynebau’r ffyrdd wedi’i thalu trwy garedigrwydd ein contractwyr L&R Roadlines ac Amberon, a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud hyn.

Thank you NHS
Thank you NHS
Thank you key workers

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”]Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Disinfect Byddwch yn ofalus os cewch gynnig diheintio eich dreif…….
Erthygl nesaf home schooling Mwy o syniadau ar gyfer addysgu gartref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English