Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhagor o syniadau ar gyfer addysgu o gartref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Rhagor o syniadau ar gyfer addysgu o gartref
Busnes ac addysgY cyngor

Rhagor o syniadau ar gyfer addysgu o gartref

Diweddarwyd diwethaf: Mai 12, 2020 1:18 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
home schooling
RHANNU

Mae’n wythnos arall o addysgu o gartref ac rydym wedi casglu ychydig o awgrymiadau isod ar eich cyfer chi a’ch plentyn i’ch helpu drwy gydol yr wythnos.

Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Mae’n bwysig eich bod chi a’ch plentyn yn cadw’n iach ac yn gofalu am eich lles emosiynol a meddyliol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn gwybod eich bod yn cael hwyl dda ar addysgu o gartref felly daliwch ati ond peidiwch â rhoi eich hunain o dan unrhyw straen ormodol.  Diolch i chi gyd am gefnogi eich plant yn eu haddysg yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg: “Diolch i bawb am eich gwaith ardderchog yn addysgu eich plant o gartref. Gwyddwn nad yw’n hawdd ac rydym am i chi wybod ein bod yn gwerthfawrogi pob dim rydych yn ei wneud i gadw eich plentyn yn iach ac wedi eu diddori yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau ar symudhwn. Cofiwch, does dim rhaid cadw at drefn ysgol felly peidiwch â theimlo fel bod rhaid gwneud sesiynau 9am – 3pm gyda’ch plentyn, cymerwch doriad a mwyhewch ddigonedd o weithgareddau anacademaidd gyda’ch plentyn.”

Eisteddfod yr Urdd

Mae dal amser i ymgeisio i gystadlaethau eleni! Cewch ragor o wybodaeth yma.

Sesiynau Bitesize ar gyfer Cymraeg fel ail iaith

Mae gan BBC Bitesize ystod o sesiynau ar sgiliau’r Gymraeg, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, o’r Cyfnod Sylfaen hyd at lefel TGAU

Cyrsiau Ar-lein am Ddim i Drigolion Gogledd Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru / BIBC yn falch o gyhoeddi fod gan staff a rhieni fynediad i gwrs arloesol AR-LEIN am blant, sy’n werth £39, yn rhad ac am ddim.

Mae Understanding Your Child wedi ei roi at ei gilydd gan y Solihull Approach, dull achrededig sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sefydlwyd 20 mlynedd yn ôl gan seicolegwyr, ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Cost arferol y cwrs yw £39 y pen. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio’r Cod Mynediad: NWSOL (dilys tan Tachwedd 2022) ar www.inourplace.co.uk gallwch gofrestru am gyfrif eich hun ac ailymweld â’r cwrs dros gyfnod amhenodol heb dalu ceiniog.

Mae Understanding Your Child ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu am blant rhwng 0-18 mlwydd oed. Mae’n edrych ar ddatblygiad yr ymennydd, chwarae, arddulliau o rianta, cysgu, pyliau o dymer ddrwg, cyfathrebu a mwy. Seliwyd ar gwrs wyneb yn wyneb sydd wedi’i ganmol yn genedlaethol a gynigir gan Solihull Approach.

Mae modiwlau 9-11 ac mae pob un yn cymryd tua 20 munud (mae gan y prif sgriniau sain lleisio ddewisol) yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol, cwisiau, fideos a thaflenni ymarferol.

Dwyieithrwydd Cynnar i’r rhai sy’n ystyried addysg trwy gyfrwng y Gymraeg

Os ydych am i’ch plentyn gael addysg yn y Gymraeg, mae gan Cymraeg i Blant Wrecsam gyngor defnyddiol ar fanteision dwyieithrwydd cynnar i chi:

  • Mae’r rhan fwyaf o blant ar draws y byd yn siarad dwy iaith felly’r cynharaf bydd eich plentyn yn clywed y Gymraeg, y gorau
  • Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i siarad Cymraeg ac i fanteisio ar y buddion o fod yn ddwyieithog mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Mae’r Gymraeg yn llai tebygol o gael ei throsglwyddo i blant pan fo dim ond un rhiant yn siarad Cymraeg.  Dim ond 45% o’r grŵp yma fydd yn trosglwyddo’r iaith i’w plant.
  • Mae trosglwyddiad y Gymraeg o riant i blentyn yn hanfodol ar gyfer parhad y Gymraeg.

Mae ystod o adnoddau a fideos amser stori am ddim hefyd ar gael:

https://www.facebook.com/cymraegiblantwrecsam/

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20
Erthygl nesaf Brig y siartiau Brig y siartiau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Arall Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English