Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cronfa “Cymru Actif” £4m wedi’i lansio ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cronfa “Cymru Actif” £4m wedi’i lansio ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru
Pobl a lleY cyngor

Cronfa “Cymru Actif” £4m wedi’i lansio ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 8, 2020 3:03 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cronfa "Cymru Actif" £4m wedi’i lansio ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru
RHANNU

Gwahoddir clybiau chwaraeon yn Wrecsam i wneud cais am gyllid o gronfa “Cymru Actif” sydd wedi’i lansio gan Chwaraeon Cymru.

Mae’r cyllid hwn ar gael i ddiogelu chwaraeon cymunedol wrth iddynt baratoi i ailddechrau gweithgareddau’n ddiogel pan fyddant wedi cael caniatâd i wneud hynny yn dilyn pandemig y coronafeirws.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Gall clybiau wneud cais am grantiau o rhwng £300 a £50,000 dan gronfa “Cymru Actif”.

Mae’r cyllid ar gael diolch i’r Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod cymunedau ar draws Cymru’n actif nawr ac yn y dyfodol.

Gwneud cais am Gyllid “Cymru Actif”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi: “Mae hwn yn newyddion da i glybiau chwaraeon cymunedol sy’n parhau i ddioddef yn ariannol o effeithiau’r coronafeirws. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn hanfodol er lles ein cymunedau ac maen nhw’n darparu gwasanaeth gwerthfawr a gwych i’n pobl ifanc. Byddwn i’n annog cynifer ag sy’n bosibl i wneud cais am gyllid “Cymru Actif” er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diogelu a’u bod yn barod pan fyddant yn cael caniatâd i ailddechrau eu gweithgareddau.”

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: “Mae chwaraeon ar lawr gwlad wedi ei effeithio’n fawr iawn. Yn ffodus, mae cyllid brys wedi achub nifer fawr o glybiau eisoes, ac rydym yn falch o allu lansio’r gronfa newydd hon a fydd yn darparu hyd yn oed mwy o gefnogaeth ar adeg pan mae mawr ei hangen.

“Mae ein clybiau a’n grwpiau yn hanfodol er mwyn cadw pobl Cymru’n actif. Os na fyddant yn dal i fynd neu os na allant ailagor yn ddiogel, gallwn ddisgwyl argyfwng arall – anweithgarwch ac iechyd gwael. Rhaid i ni beidio â gadael i hynny ddigwydd. Yn amlwg, bydd angen i glybiau addasu llawer o’u gweithgareddau er mwyn iddynt gydymffurfio’n llawn â chanllawiau iechyd a gofynion cadw pellter cymdeithasol. Bydd Cronfa Cymru Actif yn sicrhau bod hynny’n bosibl.”

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Lleiniau bowlio, cyrtiau tennis, parciau sgrialu a physgota yn ailagor heddiw Lleiniau bowlio, cyrtiau tennis, parciau sgrialu a physgota yn ailagor heddiw
Erthygl nesaf AE Sewing Machines AE Sewing Machines yn falch o roi 100 o fisorau i weithwyr rheng flaen y GIG

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English