Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyhoeddi grant newydd o hyd at £5,000 i ddarparwyr gofal plant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cyhoeddi grant newydd o hyd at £5,000 i ddarparwyr gofal plant
Busnes ac addysgY cyngor

Cyhoeddi grant newydd o hyd at £5,000 i ddarparwyr gofal plant

Diweddarwyd diwethaf: Awst 27, 2020 10:36 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Playing
RHANNU

Mae yna newyddion da i ddarparwyr gofal plant ar draws Wrecsam wrth i Lywodraeth Cymru lansio grant newydd sbon – Grant Darparwyr Gofal Plant – i helpu darparwyr gofal plant i barhau i weithredu ac ailagor yn gynaliadwy.

Mae Wrecsam wedi derbyn dros £242,000 i gefnogi’r lleoliadau hyn. Bydd y grant yn helpu darparwyr i fod yn gynaliadwy, gan gynnwys lleoliadau mewn ysgolion.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant:

Y pandemig wedi cael effaith ddrwg ar nifer o leoliadau gofal plant

“Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym ni wedi gweld pa mor bwysig ydi cael gofal plant lleol digonol ac o ansawdd da ar gyfer lles teuluoedd, yr economi leol a’r plant.

“Mae hyn yn newyddion da iawn i Wrecsam gan fod llawer o leoliadau gofal plant, sy’n cael eu rhedeg am y nesaf peth i ddim er mwyn cadw’r prisiau yn fforddiadwy i rieni, wedi’u heffeithio’n ddrwg iawn gan y pandemig ac yn debygol o gael trafferth ailagor a bod yn gynaliadwy fel arall.”

Pwrpas y grant ydi cefnogi busnesau gofal plant cofrestredig drwy ddarparu cymorth llif arian ar unwaith i helpu i wneud iawn am ganlyniadau haint Covid-19 a’r cyfnod clo.

Bydd y Grant Darparwyr Gofal Plant yn helpu’r busnesau gofal plant hynny sydd wedi methu manteisio ar gynlluniau eraill ac yn ategu’r mesurau Covid-19 eraill sy’n cefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a chyrff elusennol yng Nghymru. Gall ddarparwyr wneud cais am hyd at £5,000 ar ffurf taliad untro.

Gallwch ymgeisio am y grant ar-lein rŵan:

Y dyddiad cau ydi 31 Hydref 2020.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol School Meals Prydau ysgol pan fydd plant yn dychwelyd i’r ysgol
Erthygl nesaf green bin Dylai sticeri bin gyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i chi dalu am y gwasanaeth gwastraff gardd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English