Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Heddlu Dyfed-Powys i lansio ymgyrch Genedlaethol ‘5 Angeuol’ fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar Ddiogelwch Ffyrdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Heddlu Dyfed-Powys i lansio ymgyrch Genedlaethol ‘5 Angeuol’ fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar Ddiogelwch Ffyrdd
Arall

Heddlu Dyfed-Powys i lansio ymgyrch Genedlaethol ‘5 Angeuol’ fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar Ddiogelwch Ffyrdd

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 15, 2021 3:41 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Road safety
RHANNU

*Erthygl gwestai – Cyngor Sir Powys
Heddlu Dyfed Powys

Ddydd Mawrth 19eg Ionawr 2021, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn yn cynnal diwrnod ymgysylltu cymunedol rhithiol a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar Ddiogelwch Ffyrdd, lle bydd Heddlu Dyfed-Powys yn lansio ymgyrch genedlaethol, 5 Angeuol.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ar lefel genedlaethol ar yr ymgyrch 5 Angeuol, sy’n canolbwyntio ar y pum llinyn sy’n ymwneud â’r prif ffactorau sy’n dueddol o arwain at wrthdrawiadau angheuol a gwrthrawiadau lle ceir anafiadau difrifol, sef yfed a gyrru / cyffuriau; goryrru; ddim yn gwisgo gwregys diogelwch; defnyddio ffôn symudol; gyrru diofal.

Bydd yr Ymgyrch yn cael ei lansio gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn fyw ar Facebook, yn ystod ei ddarllediad byw cyntaf o’r flwyddyn, ddydd Mawrth Ionawr 19eg lle bydd ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru yn ymuno ag ef, sef Arweinydd Strategol ar gyfer Plismona Ffyrdd yng Nghymru, a Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

Nod yr Ymgyrch Angheuol 5 yw codi ymwybyddiaeth o’r llinynnau 5 Angeuol I yrwyr yn gyffredinol, addysgu gyrwyr, gorfodi cydymffurfiad â rheoliadau traffig ar y ffyrdd, tynnu sylw’r cyfryngau at y pwnc ac o ganlyniad, lleihau nifer y pobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ein ffyrdd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; “Yn 2019, cafodd 1,193 o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru – mae hon yn gyfradd anffodus iawn, na ddylid ei derbyn ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn nodi ffyrdd o leihau’r ystadegau hyn, ynghyd a’r gost ddynol ofnadwy. Rwy’n benderfynol o weithio gyda chydweithwyr o’r pedwar Llu yng Nghymru yn ogystal â phartneriaid allweddol fel GoSafe i sicrhau cyfuniad cywir o addysg, gorfodaeth ac ymgyrchoedd i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

“Rwy’n edrych ymlaen at lansio’r ymgyrch 5 Angeuol ddydd Mawrth yn ystod fy niwrnod Ymgysylltu Cymunedol. Gall y llinynnau, sy’n cynnwys, goryrru, defnyddio ffôn symudol, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru diofal, a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau oll arwain at ganlyniadau dinistriol; nid yn unig ar y rhai a fu’n rhan o’r gwrthdrawiad, ond hefyd ar y cylch ehangach o deulu a ffrindiau. Gobeithio, trwy ymgyrchoedd fel 5 Angeuol, y gallwn weithio gyda’n gilydd i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol a sicrhau bod ein ffyrdd yn dod yn fwy diogel.”

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe, “Y pum llinyn a nodwyd yw’r prif gyfranwyr at wrthdrawiadau angheuol ar ffyrdd Cymru. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub ac Awdurdodau Lleol rydym yn cynnal amryw o ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn gan godi ymwybyddiaeth o sut y gall pob defnyddiwr ffordd chwarae ei ran wrth wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel os gwnânt y pethau bach i leihau’r risg hon.

“Trwy ymgysylltu â defnyddwyr ffyrdd mewn digwyddiadau, hyrwyddo’r negeseuon diogelwch craidd hyn dros y cyfryngau cymdeithasol ac mewn ymgyrchoedd hysbysebu a thrwy weithrediadau ar y cyd â’n gwahanol bartneriaid a chydweithwyr, nid yw’r Ymgyrch Angheuol Pump byth yn bell o graidd yr hyn a wnawn.

“Nod strategol GoSafe yw gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel a lleihau anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd Cymru. Trwy gefnogi’r Ymgyrch 5 Angeuol, a chodi ymwybyddiaeth o sut y gall newid mewn ymddygiad ac agwedd arwain at daith fwy diogel i holl ddefnyddwyr y ffordd, ein nod yw annog mwy o fodurwyr, o bob oed, i wneud y dewis diogel a helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb. ”

Dywedodd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Plismona Ffyrdd yng Nghymru, ACC Mark Travis o Heddlu De Cymru; “Rwyf wedi ymrwymo i wella diogelwch ar y ffyrdd a hyrwyddo gyrru mwy diogel nid yn unig o fewn ardal fy Heddlu i yma yn Ne Cymru, ond hefyd ar lefel Genedlaethol ledled Cymru a thu hwnt, a rwy’n annog pobl i gymryd rhan yn yr Ymgyrch 5 Angeuol yr ydym yn ei lansio i helpu i hyrwyddo’r negeseuon allweddol.

“Mae gan bob un o bum llinyn yr ymgyrch hon ar eu pennau eu hunain y potensial i fod yn ffactor cyfrannol wrth i rywun gael ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol. Yn bwysig, maent hefyd yn ymddygiadau y gall defnyddwyr ffyrdd fod yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt a’u rheoli.

“Mae cadw pobl yn ddiogel ar ein ffyrdd yn fater y gall pawb fod yn rhan ohono. Mae gan unigolion, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau i gyd ran i’w chwarae wrth helpu i hyrwyddo gyrru mwy diogel yn y wlad, a gobeithio y bydd pobl yn cefnogi’r ymgyrch ac yn gweithio gyda ni i hyrwyddo’r negeseuon allweddol mewn cymunedau lleol.

“Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn hyrwyddo gyrru mwy diogel yng Nghymru, gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn y pen draw, helpu i achub bywydau.”

Yn ystod ei Ddiwrnod Ymgysylltu â’r Gymuned rithiol, bydd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr cymunedol ym Mhowys, i drafod materion diogelwch ar y ffyrdd mewn rhai ardaloedd o fewn y Sir cyn lansio’r Ymgyrch 5 Angeuol ar dudalen Facebook Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys – www.facebook.com/DPOPCC – am 5: 00yp.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Trading Standards issue warning about finding a trader online Rhybudd gan y Safonau Masnach ynghylch dod o hyd i fasnachwyr ar-lein
Erthygl nesaf Mark Owen Prif Swyddog Cyllid, Mark Owen, i ymddeol ym mis Mehefin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English