Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prif Swyddog Cyllid, Mark Owen, i ymddeol ym mis Mehefin
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Prif Swyddog Cyllid, Mark Owen, i ymddeol ym mis Mehefin
Pobl a lleY cyngor

Prif Swyddog Cyllid, Mark Owen, i ymddeol ym mis Mehefin

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 18, 2021 9:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Mark Owen
RHANNU

Ar ôl 38 mlynedd ym maes cyllid Llywodraeth Leol, 25 mlynedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac 17 o’r rheiny yn Brif Swyddog, mae Mark Owen yn cymryd y cyfle i ymddeol.

Meddai Mark: “Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod gyda’r Llywodraeth Leol ac yn bwriadu gadael ddiwedd mis Mehefin. Rydw i wedi gweithio i’r Fwrdeistref Sirol am 25 mlynedd ac roeddwn am gael safbwynt gwahanol ar fywyd, yn hytrach na rhoi gwaith yn gyntaf bob tro. Mae’r Tîm Cyllid a TGCh wedi bod yn wych a byddant yn parhau i wneud gwaith arbennig yn y dyfodol.”

Get the latest COVID-19 vaccination information

Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Rydym yn sylweddoli cymaint mae Mark wedi ei gyfrannu at Gyngor Wrecsam a gwasanaeth cyhoeddus, ac yn sylweddoli y bydd yn gadael bwlch mawr ar ei ôl. Rydym yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi llwyddo i benodi Prif Swyddogion o safon arbennig i swyddi, a dydyn ni ddim yn disgwyl y bydd y penodiad hwn yn wahanol.  Byddwn y ffaith fod Mark yn gadael yn golled, ond hefyd yn gyfle i recriwtio Prif Swyddog newydd.”

Meddai Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydw i wedi gweithio’n agos iawn gyda Mark dros nifer o flynyddoedd ac yn ymwybodol iawn o’i ymroddiad a’i ymrwymiad.  Mae parch mawr tuag at Mark gan Aelodau, Swyddogion a staff yn Wrecsam, ac hefyd yng Ngogledd Cymru ac yn ehangach mewn Llywodraeth Leol a Chenedlaethol.  Mae Mark yn berson gwirioneddol hoffus a charedig ac mae gen i’r parch uchaf tuag at ei allu a’i broffesiynoldeb.

“Rydw i’n gwybod y gallai Mark fod wedi gadael y Cyngor i ddilyn ei lwybr gyrfa, ond dewisodd aros yma, gan ddangos ei fod yn arbennig o dryw. Gweithiodd Mark yn ddiflino dros y blynyddoedd a bydd yn gadael y Cyngor yn y sefyllfa ariannol orau posib o ystyried y pwysau cyfredol.  Dylai fod yn falch iawn o’r hyn mae wedi ei gyflawni yma a bydd yn golled fawr i ni.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Mark am ei gyfraniad anhygoel i Lywodraeth Leol, a dymuno’r gorau posib iddo a’i deulu ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y Cyngor yn ystyried adroddiad gan y Bwrdd Gweithredol ar 26 Ionawr er mwyn ceisio cymeradwyaeth i recriwtio i’r swydd. 27 Mehefin fydd diwrnod olaf Mark a’r bwriad yw penodi Prif Swyddog newydd cyn i Mark adael.

???? Get the facts…read the latest NHS Wales Covid-19 vaccination info ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/covid-19-vaccination-information/”]GET THE FACTS[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Road safety Heddlu Dyfed-Powys i lansio ymgyrch Genedlaethol ‘5 Angeuol’ fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar Ddiogelwch Ffyrdd
Erthygl nesaf Sesiynau chwaraeon yn cael eu darlledu’n fyw yn eich cartref. Sesiynau chwaraeon yn cael eu darlledu’n fyw yn eich cartref.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English