Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwelliannau i Ofal Cymdeithasol Plant a adroddwyd wrth y Bwrdd Gweithredol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwelliannau i Ofal Cymdeithasol Plant a adroddwyd wrth y Bwrdd Gweithredol
Y cyngor

Gwelliannau i Ofal Cymdeithasol Plant a adroddwyd wrth y Bwrdd Gweithredol

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 4, 2021 9:54 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Children's Social Services
RHANNU

Yn ei gyfarfod nesaf bydd Bwrdd Gweithredol Wrecsam yn derbyn adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ynglŷn â gwasanaethau plant Wrecsam yn dilyn arolygiad fis Hydref diwethaf.

Roedd yr arolygiad yn dilyn pryderon a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru fis Chwefror diwethaf am wasanaethau plant yn Wrecsam, gan ddweud bod angen i ni fod yn fwy cyson yn ymateb i anghenion plant.

O ganlyniad i’r pryderon hyn, fe wnaethom weithredu ar unwaith:

  • Fe wnaethom ddyrannu £1miliwn yn ychwanegol i helpu i sicrhau bod gan yr adran yr adnoddau angenrheidiol.
  • Fe wnaethom adeiladu ar waith y ‘Bwrdd Gwelliannau Cyflym’ – sydd yn cynnwys ein Prif Weithredwr, uwch gynghorwyr ac uwch reolwyr – trwy sefydlu tîm cefnogi i roi’r gallu i’r bwrdd weithredu’r newidiadau angenrheidiol, ac i fonitro cynnydd a symud ymlaen â newid.

Edrychodd yr arolygiad yn ofalus ar y cynnydd a wnaed gan y Cyngor a nododd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud gyda rhagolygon da i barhau i wella eleni.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’r adroddiad arolygu yn rhoi adborth cadarnhaol am y gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn.

“Er enghraifft, mae’n sôn sut mae cyllid ychwanegol yn ein helpu i recriwtio i swyddi gwaith cymdeithasol allweddol, a sut mae gweithio’n well rhwng gweithwyr, cynghorwyr a phartneriaid yn cael effaith gadarnhaol.

“Mae yna gryn waith i’w wneud eto, ac fe hoffai Arolygiaeth Gofal Cymru weld mwy o gysondeb yn rhywfaint o’n gwaith cymdeithasol, ond mae’r adroddiad yn dweud ein bod yn gwneud cynnydd mor gyflym ag sy’n bosibl ac yn symud i’r cyfeiriad cywir…mae hynny’n galonogol iawn.

“Byddwn yn parhau i weithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru dros y misoedd sydd i ddod er mwyn i ni adeiladu ar y camau cadarnhaol yma.”

Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Rhoddodd Arolygiaeth Gofal Cymru adborth am welliannau i ofal cymdeithasol i oedolion ers eu harchwiliad diwethaf yn 2018, yn cynnwys lleihau rhestri aros ar gyfer rhai gwasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe,  Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae yna feysydd lle mae angen i ni wneud gwelliannau, yn cynnwys sut rydym ni’n gweithio gyda’r sector iechyd i’w gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar wasanaethau mewn un lle.

“Serch hynny, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydnabod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddweud bod diogelu oedolion yn Wrecsam yn effeithiol, a bod arferion gwaith cymdeithasol yn dda ar y cyfan.

“Mae’n galonogol iawn ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio’n galed i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol effeithiol i oedolion ar draws y fwrdeistref sirol.”

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn parhau i fonitro ac yn dychwelyd i ail-arolygu gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o fewn 12 mis.

Mae’r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar y 9 Chwefror a gallwch wirio’r adroddiad hwn a rhai eraill yn: https://moderngov.wrecsam.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=129&MId=5092&LLL=0

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymgynghoriad Ynghylch y Gyllideb, Rhan 2 Ymgynghoriad Ynghylch y Gyllideb, Rhan 2
Erthygl nesaf Great news as Wrexham Family Information Service achieves Quality Award Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English