Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pa bryd mae disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol yn Wrecsam? Nodyn i’ch atgoffa…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Pa bryd mae disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol yn Wrecsam? Nodyn i’ch atgoffa…
Busnes ac addysgY cyngor

Pa bryd mae disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol yn Wrecsam? Nodyn i’ch atgoffa…

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 5, 2021 12:10 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
School pencils
RHANNU

Mae ysgolion ar draws Wrecsam yn dal i gynllunio a pharatoi, wrth i fwy o blant ddychwelyd yn raddol i’r ystafelloedd dosbarth.

Cynnwys
  • Dyddiadau allweddol ar gyfer mynd yn ôl
  • Cam cadarnhaol ymlaen
  • Dilynwch y rheolau a helpwch i gadw ysgolion ar agor

Mae disgyblion y cyfnod sylfaen (meithrin, derbyn, blwyddyn 1 a 2) wedi bod yn dychwelyd yn raddol ers 25 Chwefror (ychydig ddyddiau ar ôl rhannau eraill o Gymru ble roedd lefelau coronafeirws yn is).

Ers hynny, mae pethau wedi gwella’n sylweddol ar draws y wlad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd mwy o blant yn gallu dychwelyd o’r 15 Mawrth ymlaen.

Nodyn i’ch atgoffa…

Dyddiadau allweddol ar gyfer mynd yn ôl

  • Bydd plant ysgolion cynradd i gyd (blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) yn ôl yn yr ysgol erbyn 15 Mawrth.
  • Bydd disgyblion uwchradd blynyddoedd 11 a 13 (blynyddoedd arholiad) hefyd yn ôl ar 15 Mawrth, yn ogystal â rhai disgyblion blwyddyn 10 a 12 sy’n gwneud arholiadau.
  • Bydd pob disgybl uwchradd yn ôl yn yr ysgol llawn amser o 12 Ebrill (ar ôl gwyliau’r Pasg).
  • Efallai y bydd ysgolion yn gallu cynnig sesiynau galw mewn i flynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg. Os yw hyn yn wir, bydd eich ysgol yn cysylltu gyda’r manylion.

Cam cadarnhaol ymlaen

Mae’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam, yn dweud:

“Rydym yn falch iawn o weld plant yn dychwelyd yn raddol i ystafelloedd dosbarth yn Wrecsam.

“Mae dychweliad disgyblion y cyfnod sylfaen wedi bod yn llwyddiannus, a bydd derbyn mwy o blant yn ôl o’r 15 Mawrth yn gam cadarnhaol arall ymlaen.

“Bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni ynglŷn â’r trefniadau, a gobeithio y bydd y disgyblion yn mwynhau mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth a gweld eu hathrawon a’i ffrindiau ysgol unwaith eto.”

School bubbles are for school

Dilynwch y rheolau a helpwch i gadw ysgolion ar agor

Wrth i fwy o blant ddychwelyd, gofynnir i rieni helpu hefyd i gadw ysgolion ar agor drwy ddilyn y canllawiau diogelwch.
Meddai’r Cynghorydd Wynn:

“Ceisiwch osgoi rhannu ceir gydag aelwydydd eraill, gwisgwch orchudd wyneb wrth ddanfon a nôl eich plant, a cheisiwch beidio ag oedi wrth giatiau’r ysgol i siarad gyda rhieni eraill.

“Cofiwch hefyd fod ‘swigod’ ysgol yn berthnasol i’r ysgol yn unig, ac ni ddylai plant fod yn cymysgu mewn grwpiau y tu allan i eiddo’r ysgol. Mae’r cyfyngiadau presennol yng Nghymru yn nodi na ddylai mwy na phedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol gyfarfod i ymarfer y tu allan.

“Hoffwn ddiolch i blant, rhieni a staff ysgolion am bopeth maen nhw’n wneud i helpu i gadw ein hystafelloedd dosbarth yn ddiogel.

“Os byddwn ni i gyd yn dilyn y rheolau, gallwn gadw ysgolion ar agor a gobeithio y daw pethau yn ôl i drefn yn raddol dros y misoedd nesaf.”

Rhannu
Erthygl flaenorol green bin Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – peidiwch â cheisio adnewyddu ar gyfer 2021/22 eto
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – rydym un i ddim ar ein hennill, ond nid yw’r gêm drosodd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English