Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – peidiwch â cheisio adnewyddu ar gyfer 2021/22 eto
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – peidiwch â cheisio adnewyddu ar gyfer 2021/22 eto
Y cyngor

Gwasanaeth casglu gwastraff gardd – peidiwch â cheisio adnewyddu ar gyfer 2021/22 eto

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 5, 2021 8:38 am
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

Rydym wedi bod yn cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd taladwy yn ddiweddar, i’w hysbysu o’n cynlluniau ar gyfer tanysgrifiad 2021/22.

Cynnwys
  • Adnewyddu o 28 Mehefin
      • Y ffi fydd £25 y flwyddyn, fesul bin o hyd
      • Sticeri newydd i’r sawl sy’n adnewyddu
      • Dim taliadau arian parod na sieciau
      • Heb gofrestru ar gyfer 2020/21, ond yn dymuno gwneud?

Fe gofiwch efallai bod dyddiad cychwyn y gwasanaeth wedi cael ei oedi llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws, ac o ganlyniad, cafodd pob tanysgrifiad ei ymestyn nes 31 Awst, 2021.

Felly, bydd cynllun 2021/22 yn weithredol o ddydd Llun, 30 Awst 2021 nes dydd Gwener, 2 Medi 2022.

Adnewyddu o 28 Mehefin

Os ydych chi’n bwriadu adnewyddu, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth eto! Rydym yn bwriadu dechrau derbyn ceisiadau i adnewyddu o ddydd Llun, 28 Mehefin, felly peidiwch â cheisio adnewyddu cyn y dyddiad hwn.

Byddwn yn atgoffa preswylwyr o hyn yn gyson ar ein blog newyddion a sianeli ein cyfryngau cymdeithasol wrth i ni agosáu at y dyddiad hwn, felly nid oes angen poeni.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Y ffi fydd £25 y flwyddyn, fesul bin o hyd

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y wasanaeth ar £25 y flwyddyn, fesul bin gwyrdd, sy’n llai na sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr. Bydd ceisiadau i adnewyddu yn cychwyn ddydd Llun, 28 Mehefin, a’r ffordd mwyaf cyfleus i dalu ar gyfer y gwasanaeth yw ar-lein ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ein ffonio ar 01978 298989 i wneud taliad â cherdyn. Serch hynny, mae’n rhaid i ni bwysleisio, peidiwch â cheisio talu am y gwasanaeth hwn nes bydd ceisiadau i adnewyddu yn agor, ar 28 Mehefin. Diolch.”

Sticeri newydd i’r sawl sy’n adnewyddu

Bydd preswylwyr sy’n adnewyddu eu tanysgrifiad i’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd, y bydd angen ei arddangos yn glir ar gaead eich bin i sicrhau casgliadau.

Gadewch 10 diwrnod o leiaf o’r dyddiad rydych yn adnewyddu er mwyn derbyn eich pecyn sticer newydd.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Llynedd, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.

Heb gofrestru ar gyfer 2020/21, ond yn dymuno gwneud?

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd (2020/21), ond rydych yn dymuno ein bod yn casglu eich bin(iau) gwyrdd dros y gwanwyn a’r haf, nid yw’n rhy hwyr i gofrestru.

Mae’n costio £25 fesul bin, gyda’n gwasanaeth cyfredol yn weithredol nes 21 Awst, 2021, felly gallwch fanteisio ar 5 mis o gasgliadau os ydych chi’n cofrestru mor fuan â phosib.

Gallwch gofrestru drwy fynd i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd, sef y ffordd gyflymaf a’r mwyaf cyfleus. Fel arall, gallwch ffonio 01978 298989, er efallai bydd gofyn i chi aros mewn ciw os ydych chi’n gwneud hyn.

Nodyn atgoffa: mis nesaf bydd casgliadau gwastraff gardd yn dychwelyd yn ôl i gasgliadau bob pythefnos

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Council Tax ar gyfer beth mae fy nhreth y cyngor yn mynd?
Erthygl nesaf School pencils Pa bryd mae disgyblion yn mynd yn ôl i’r ysgol yn Wrecsam? Nodyn i’ch atgoffa…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English