Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd: anfonwyd llythyrau sgam at fusnesau yn cynnig ‘Puryddion aer Covid’
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhybudd: anfonwyd llythyrau sgam at fusnesau yn cynnig ‘Puryddion aer Covid’
Arall

Rhybudd: anfonwyd llythyrau sgam at fusnesau yn cynnig ‘Puryddion aer Covid’

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 29, 2021 10:09 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Letter being opened
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi dod i wybod am sgam pan mae busnesau yn derbyn llythyrau yn rhoi gwybod iddynt fod rhaid prynu ‘puryddion aer Covid Ddiogel’ a bod hynny’n ofyniad cyfreithiol.

Cynnwys
  • Sgam ydi hyn!
      • “Nid yw hyn yn wir”
      • Adrodd am drosedd seiber
      • Rhywfaint o gyngor
      • Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Sgam ydi hyn!

Mae hyn yn sgam, a does dim gofyniad cyfreithiol i fusnesau osod puryddion o’r fath.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae’r llythyrau, sy’n honni iddynt gael eu hanfon gan y ‘Tasglu Covid Ddiogel’ fel rhan o Strategaeth yr Adran Fusnes, Ynni a Diwydiant, yn twyllo drwy nodi ei bod yn ofyniad cyfreithiol ar fusnesau i brynu eu puryddion aer erbyn 3 Mai, 2021.

Dywedir fod y puryddion yn costio £123.80 yr un a bod yn rhaid i fusnesau gael o leiaf dwy ddyfais, hyd at uchafswm o 10, yn dibynnu ar y math o fusnes a maint yr eiddo.

Gofynnir i fusnesau gwblhau ffurflen gais i archebu’r puryddion, a dywedir y bydd rhywun o’r ‘Gweithgor Covid Ddiogel’ yn cysylltu gyda nhw dros y ffôn i gwblhau’r taliad.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

“Nid yw hyn yn wir”

Mae Strategaeth yr Adran Fusnes, Ynni a Diwydiant (BEIS) wedi rhoi datganiad ar Trydar yn dweud: “Rydym yn ymwybodol o sgam yn anfon llythyr pennawd BEIS at fusnesau yn dweud wrthynt, yn ôl y gyfraith, bod angen iddynt brynu puryddion aer i gydymffurfio a rheolau #Covid19.

“Nid yw hyn yn wir” Os cewch chi lythyr, rhowch wybod amdano i Action Fraud UK.”

SCAM ALERT: We are aware of scammers sending BEIS headed letters to businesses telling them that, by law, they need to purchase air purifiers to comply with #COVID19 rules.

This is not true.

If you receive a letter, please report it to @actionfrauduk https://t.co/jNZ8PBdjq9

— Department for Science, Innovation and Technology (@SciTechgovuk) April 20, 2021

Adrodd am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.

Rhywfaint o gyngor

Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:

STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.

HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.

AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.

Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn ymwybodol o dwyll.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol damaged wall Hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddysgu sgiliau adeiladu newydd
Erthygl nesaf Wrecsam Cyffredinol Wrexham General Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i deithwyr barchu staff a dilyn y cyngor diweddaraf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
Diweddariad ar y brechlyn MenB
Arall

Diweddariad ar y brechlyn MenB

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English