Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 97 y cant o gartrefi yn ymateb i Gyfrifiad 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > 97 y cant o gartrefi yn ymateb i Gyfrifiad 2021
ArallPobl a lle

97 y cant o gartrefi yn ymateb i Gyfrifiad 2021

Diweddarwyd diwethaf: Mai 6, 2021 2:59 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
97 y cant o gartrefi yn ymateb i Gyfrifiad 2021
RHANNU

Mae’r ymateb i Gyfrifiad 2021 wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl, gyda 97 y cant o gartrefi ledled Cymru a Lloegr yn gwneud yn siŵr eu bod yn cyfrif wrth ystyried gwasanaethau lleol fel meddygfeydd, lleoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai.

Mae hyn yn uwch na’r targed cyn y cyfrifiad, sef 94 y cant, ac mae pob awdurdod lleol wedi gweld dros 90 y cant o gartrefi yn ymateb, gan ragori ar y targed, sef 80%.

I’r rhai nad ydynt wedi llenwi’r ffurflen ar-lein syml eto, nid oes llawer o amser ar ôl. Bydd yr holiadur ar-lein yn cau ar 17 Mai.

Nawr bod y prif waith maes wedi dod i ben, fel yn 2011, bydd tua 350,000 o gartrefi ledled Cymru a Lloegr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad. Bydd yr arolwg byr, ar wahân hwn a gaiff ei arwain gan gyfwelydd yn galluogi SYG i gael trosolwg terfynol o’r cyfraddau ymateb.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

“Rydym ni wedi cael ymateb gwych i Gyfrifiad 2021. Mae ein gwybodaeth yn dangos bod 97% o gartrefi wedi ymateb hyd yma – gan ragori ar ein targed cyn y cyfrifiad, sef 94%,” meddai Dirprwy Ystadegydd Gwladol SYG, Iain Bell.

“Mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi gwneud hynny er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynrychioli ar gyfer eu hardal leol. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi llenwi eu ffurflen hyd yma yn ogystal â’r holl grwpiau cymunedol, sefydliadau ac awdurdodau lleol sydd wedi ein helpu i wneud y cyfrifiad hwn yn llwyddiant.

“Rydym ni mewn sefyllfa wych wrth i ni ddechrau Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad. Mae hyn yn rhan bwysig o wneud yn siŵr bod y cyfrifiad yn cynhyrchu’r ystadegau poblogaeth mwyaf cywir. Mae’n gofyn cwestiynau tebyg i’r prif gyfrifiad, ond llai ohonynt, mewn cyfeiriadau mewn detholiad o godau post ledled Cymru a Lloegr. Bydd cyfwelydd yn cynnal yr arolwg ar garreg eich drws a bydd ond yn cymryd tua 15 munud.

“Arolwg gwirfoddol yw Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad ond, drwy gymryd rhan, byddwch chi’n gwella ansawdd y wybodaeth a gaiff ei chasglu yn y cyfrifiad. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol yn eich cymuned.”

Er bod Diwrnod y Cyfrifiad – dydd Sul 21 Mawrth 2021 – wedi bod erbyn hyn, nid yw’n rhy hwyr i chi ymateb ar lein. Mae ond yn cymryd tua 10 munud fesul unigolyn.

Os ydych chi wedi colli’r llythyr neu os oes gennych chi ail gyfeiriad nad ydych wedi ymweld ag ef, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk i ofyn am gael cod mynediad ar-lein ar gyfer eich cyfeiriad drwy neges destun.

Ar ôl 17 Mai, dim ond holiaduron papur fydd ar gael.

Os bydd pobl yn gwrthod cymryd rhan, gallent orfod mynd i’r llys a chael dirwy o £1,000 a chofnod troseddol. Bydd gweithrediad diffyg cydymffurfio’r cyfrifiad yn dechrau ar 25 Mai.

Mae gwaith ymgysylltu helaeth â chymunedau yn parhau i wneud yn siŵr bod pob grŵp yn y boblogaeth yn cael ei gynrychioli yn y cyfrifiad. Er enghraifft, mae angen i fyfyrwyr wneud yn siŵr eu bod wedi llenwi holiadur ar gyfer eu cyfeiriad yn ystod y tymor er mwyn helpu i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn eu tref prifysgol nawr ac yn y dyfodol. Dylai myfyrwyr lenwi ffurflen hyd yn oed os cawsant eu cynnwys ar ffurflen eu teulu gartref.

Mae hefyd angen i bobl ag ail gyfeiriadau lenwi ffurflen fer ar gyfer eu heiddo p’un a yw’n garafán, yn dŷ gwyliau neu’n fflat cymudo.

O 4 Mai, bydd sampl o gartrefi yn cael cerdyn drwy’r post yn gofyn i bawb sy’n byw yno gymryd rhan yn Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad. Ar ôl hynny, bydd cyfwelydd, a fydd yn dilyn canllawiau COVID-19 y llywodraeth, yn ymweld â’r cyfeiriad ac yn llenwi’r holiadur gyda chi ar garreg eich drws. Bydd y cyfwelydd yn gallu dangos bathodyn adnabod ar laniard â brand Cyfrifiad 2021 arno.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Arolwg, ewch i Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad – Cyfrifiad 2021.

Mae canolfannau cymorth lleol y cyfrifiad bellach wedi cau, ond mae help a holiaduron papur ar gael o hyd gan ganolfan gyswllt y cyfrifiad ar radffôn 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr.

Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau’r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol bleidlais frys drwy ddirprwy Methu pleidleisio oherwydd eich bod yn sâl? Gallwch wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy.
Erthygl nesaf C Pa brawf ddylai fy mhlentyn ei gael os yw’n dangos symptomau Covid-19?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English