Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arolwg Boddhad Tenant a Lesddeiliad – Y Canlyniadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Arolwg Boddhad Tenant a Lesddeiliad – Y Canlyniadau
Y cyngor

Arolwg Boddhad Tenant a Lesddeiliad – Y Canlyniadau

Diweddarwyd diwethaf: 2021/05/20 at 5:06 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Arolwg Boddhad Tenant a Lesddeiliad – Y Canlyniadau
RHANNU

Diolch i bawb a  gwblhaodd ein harolwg boddhad. Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig cael eich barn am ein gwasanaeth, yn arbennig yn ystod y cyfnodau ansicr hyn. Wrth gael cymaint o adborth â phosib, gallwn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy’n effeithiol ar gyfer ein cymunedau.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Yn ystod y pandemig, efallai ein bod wedi disgwyl gweld lleihad mewn canlyniadau cadarnhaol, ond aeth y Gwasanaethau Tai yng Nghyngor Wrecsam tu hwnt i’r galw, ac mae canlyniadau’r arolwg yn adlewyrchu hynny.

Mae mwyafrif y bobl yn dewis cysylltu â ni dros y ffôn, ac rydym yn falch ein bod wedi gallu cynnal y gwasanaeth hwn trwy ein canolfan alwadau a swyddfeydd ystâd trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Gyda 25% o denantiaid yn cysylltu mwy gyda ni yn ystod y cyfnod clo nac o’r blaen, mae’n gadarnhaol gweld bod dros 75% o’n tenantiaid yn teimlo ein bod wedi rhoi cymorth a chyngor yr oeddent ei angen, ond mae hyn yn ein gadael gyda lle i wella hefyd.

Yn ogystal â chysylltu â ni, gwnaeth y Gwasanaethau Tai dros 20,000 o alwadau lles i’n tenantiaid trwy gydol y pandemig. Cawsom ymateb cadarnhaol iawn o’r adborth mewn perthynas â’r galwadau hyn, gyda bron i 70% yn dweud eu bod yn ddefnyddiol, ac yn rhoi sicrwydd, sydd yn ardderchog.

“Roedd y ferch a siaradais gyda hi dros y ffôn yn neis iawn, ac roedd yn braf gwybod bod rhywun yno”

“Roedd yn rhoi sicrwydd i mi fod gan rywun ddiddordeb ynom ni a’n hiechyd.”

Mae’n glir o’ch ymateb yn yr arolwg hwn nad oes un ffordd o gyfathrebu yn gweddu pawb, a dylem barhau i ymgysylltu â chi fel ein tenantiaid, mewn nifer o ffyrdd er mwyn sicrhau bod negeseuon yn berthnasol ac yn cyrraedd y gynulleidfa yn effeithlon ac yn effeithiol. Y dulliau cyfathrebu a ffafriwyd gennych chi oedd: llythyr, e-bost, ffôn, cyfryngau cymdeithasol a newyddlenni.

Wrth symud ymlaen i’n gwaith atgyweirio, dywedodd dros 90% ohonoch eich bod yn hapus â’r ffordd y cafodd eich galwad ei drin, ac roedd 84% ohonoch a dderbyniodd waith atgyweirio brys yn ystod y pandemig yn fodlon gyda’r gwaith a gyflawnwyd. Yn ogystal â hyn, maent wedi cwblhau gwaith adnewyddu dros 2750 o gartrefi (25% o’n stoc dai). Mae’r rhain yn ganlyniadau gwych ac yn glod i’n Tîm Atgyweirio.

Yn olaf, o fewn yr arolwg, cafodd ein tenantiaid a’n lesddeiliaid y cyfle i ddweud wrthym ni beth rydym wedi gwneud yn dda a beth fuasem ni wedi gallu gwneud yn well trwy gydol pandemig Covid-19, ac roedd yn wych gweld bod bron i 67% o’r sylwadau yn gadarnhaol iawn a’r gweddill yn sylwadau adeiladol er mwyn ein galluogi i barhau i wella ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.

“Roedd cyfathrebu yn dda iawn, gyda gwybodaeth glir iawn. Diolch i chi am eich holl waith caled.”

“Deliwyd â’r sefyllfa yn dda iawn. Dylid canmol yr holl staff a’r gweithlu.”

“Rwyf yn fy 70au, ac roedd yn braf cael galwad ffôn i ofyn a oeddwn yn iawn, ac os oeddwn angen unrhyw beth, roedd yn golygu lot i mi, diolch yn fawr”.

“Roedd estyn allan at bobl a rhoi sicrwydd i ni wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Diolch i chi gyd am fynd tu hwnt i’r galw.”

Dywedodd Julie Francis – Pennaeth y Gwasanaethau Tai “Rwy’n falch iawn o fy holl dimoedd a’r ffordd maent wedi ymateb yn ystod y pandemig. Mae’n galonogol gweld bod cymaint o denantiaid a lesddeiliaid yn hapus gyda’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Fel tîm byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer ein cymunedau.”

Ni fyddwn yn eistedd yn ôl, byddwn yn ystyried popeth yr ydych wedi nodi inni ac edrych ar sut fedrwn ni wella ein gwasanaeth i sicrhau bod ein tenantiaid yn derbyn y gorau fedrith ei landlord cynnig.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol RITA RITA yn cyrraedd Wrecsam
Erthygl nesaf Ysgol Sant Paul Eglwys Cymru a Gynorthwyir Mae plant ysgol Wrecsam yn helpu i wneud y byd yn lle cleniach i bobl â dementia

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English