Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
Pobl a lle

Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/06/25 at 2:12 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
RHANNU

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam wedi bod yn cynnig cyngor i safleoedd trwyddedig sy’n dangos gemau pêl-droed yn ystod Covid i helpu i sicrhau bod eu staff a chwsmeriaid yn aros yn ddiogel.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Os nad ydych wedi ymweld â safle trwyddedig ers tro, mae’n bosibl bod pethau ychydig yn wahanol i’r hyn rydych wedi arfer ag ef.

  • Mae’n well i chi drefnu lle a chynllunio ymlaen llaw, ond mae rhai lleoliadau ar agor i bobl gerdded i mewn a gall ciwiau ffurfio y tu allan os ydynt eisoes yn llawn o ran niferoedd cwsmeriaid.Gall hyn olygu aros yn hir felly os byddwch yn gweld ciw hir, ceisiwch feddwl ble arall y gallech fynd yn hytrach nag aros eich tro.
  • Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol yn gyfraith a rhaid cadw atynt.
  • Mae gan fusnesau gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw un sy’n ciwio i ddod i mewn i’w safle yn cadw 2 fetr ar wahân, waeth pa mor hir yw’r ciw.
  • Mae cwsmeriaid hefyd yn cael eu hatgoffa o hyn ac os bydd staff yn gofyn i chi gadw pellter, gwnewch hynny’n gwrtais. Mae’n bwysig cofio bod staff diogelwch a staff goruchwylio drysau yn gweithio i’ch cadw chi a’r rhai sydd gyda chi yn ddiogel ac ni fyddant yn goddef camdriniaeth.
  • Wrth fynd i mewn, gofynnir i chi roi manylion ar gyfer y system profi ac olrhain.
  • Cofiwch hefyd fynd â’ch masg neu orchudd wyneb a rhoi sylw manwl i hylendid dwylo.
  • Mae’r arweiniad presennol yn argymell cadw darlledu chwaraeon byw ar lefel sŵn gefndirol, felly mae’n bosibl y bydd y sŵn ychydig tawelach na’r hyn rydych wedi arfer ag ef.
  • Dylid gosod sgriniau fel nad ydynt yn annog pobl i ddod at ei gilydd neu sefyll.
  • Dylai pob lleoliad sicrhau bod camau’n cael eu cymryd fel nad yw pobl yn gorfod codi eu lleisiau’n ormodol ar y naill a’r llall. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, peidio â chwarae cerddoriaeth neu ddarllediadau sy’n annog gweiddi, yn cynnwys ar lefel sy’n gwneud sgwrs naturiol yn anodd.

Mae’n bosibl y bydd gan y safleoedd bosteri a chyhoeddiadau am y rheolau hyn.

Bydd staff yn atgoffa’r holl gwsmeriaid o’r hyn i’w ddisgwyl wrth ryngweithio â nhw.

Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid nad ydynt yn cadw at y rheolau yn cael eu hatgoffa o ganlyniadau peidio ag ymddwyn yn y ffordd sy’n dderbyniol ar hyn o bryd.

Mae rheolau Covid yno i ddiogelu staff a chwsmeriaid, gan alluogi darlledu diogel sy’n unol â’r gyfraith.

Os bydd y gyfraith yn cael ei thorri o gwbl yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn effeithio ar y safle rydych wedi’i ddewis, ond hefyd gall effeithio ar iechyd pawb yn y gymuned.

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:”Yn ystod Ewro 2016, roedd gan gefnogwyr Cymru enw da o ran gallu mwynhau eu hunain yn fawr iawn, ond mewn ffordd barchus.

“Nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni ailadrodd hyn gartref!

“Gwnewch bopeth allwch chi i gadw at y rheolau a mwynhau’n ddiogel … pob lwc Cymru!”

“Mae hwn yn gyfle arall i dangos bod cefnogwyr Cymru yn gallu ymddwyn mewn ffordd bleserus”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – ewch am frechiad (er mwyn i ni gael dychwelyd i’r arfer)
Erthygl nesaf green bin Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 o heddiw ymlaen

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English