Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Dw i’n bôrd!” 7 ffordd o osgoi’r geiriau arswydus hyn yn ystod gwyliau’r ysgol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > “Dw i’n bôrd!” 7 ffordd o osgoi’r geiriau arswydus hyn yn ystod gwyliau’r ysgol
ArallPobl a lle

“Dw i’n bôrd!” 7 ffordd o osgoi’r geiriau arswydus hyn yn ystod gwyliau’r ysgol

Diweddarwyd diwethaf: 2021/08/02 at 9:42 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
“Dw i’n bôrd!” 7 ffordd o osgoi’r geiriau arswydus hyn yn ystod gwyliau’r ysgol
RHANNU

Mae pob rhiant wedi cael y profiad… wythnos neu ddwy yn unig sydd wedi mynd heibio ers dechrau gwyliau’r haf, ac mae’r plant yn yngan y geiriau arswydus hynny: “Dw i’n bôrd.”

Cynnwys
Rhai syniadau…1. Pethau difyr i’w gwneud mewn ysgolion2. Mwy o hwyl gan dîm Wrecsam Egnïol3. Gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn Nhŷ Pawb4. Cymerwch ran yn y Diwrnod Chwarae (4 Awst)5. Ymwelwch â’n parciau a’n parciau gwledig6. Mynd i nofio7. Chwarae pêl-droed!

Wedyn, llawer o ofid a wynebau hirion – ynghyd ag ambell gyfnod pan maent fel sombis wedi eu glynu i’r PlayStation neu TikTok, neu’n anfon negeseuon at eu ffrindiau i ddweud eu bod nhw’n bôrd.

Diolch byth, felly, fod yna ddigonedd o bethau’n digwydd yn Wrecsam er gwaethaf yr amseroedd anodd oherwydd y pandemig.

Yn fwy na hynny, gall cadw’n brysur dros y gwyliau ei gwneud yn haws i blant fynd yn ôl i’r meddwl cywir wrth fynd yn ôl i’r ysgol ym mis Medi.

Cynghorydd John Pritchard, aelod arweiniol gwasanaethau ieuenctid Cyngor Wrecsam:

“Mae hi’n bwysig cadw’n brysur yn ystod gwyliau’r ysgol, ond nid yw bob amser yn hawdd canfod pethau y mae ar y plant eisiau eu gwneud… ac weithiau mae angen anogaeth ychwanegol arnynt.

“Gall cadw eu meddyliau a’u cyrff yn brysur ei gwneud yn haws i blant newid gêr pan ddaw hi’n amser mynd yn ôl i’r ysgol, a gall hefyd wneud y gwyliau’n fwy hwyliog a difyr.

“Er gwaethaf y pandemig, mae yna lawer o bethau’n dal i ddigwydd yn Wrecsam, ac mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnig am ddim.”

Rhai syniadau…

1. Pethau difyr i’w gwneud mewn ysgolion

I ddechrau, mae llawer o bethau’n cael eu cynnal yn rhai o’n hysgolion a’n canolfannau hamdden sydd ynghlwm wrth ysgolion.

Darllenwch ein herthygl flaenorol er mwyn cael mwy o wybodaeth…

Hwyl yn yr ysgol yn ystod yr haf hwn

2. Mwy o hwyl gan dîm Wrecsam Egnïol

Yn ogystal â’r pethau sy’n digwydd mewn canolfannau hamdden sydd ynghlwm wrth ysgolion, mae tîm Wrecsam Egnïol wedi trefnu llwyth o bethau hwyliog eraill – yn cynnwys Tae Kwon Do, gymnasteg, athletau, a hyfforddiant sgiliau pêl-droed.

Darllenwch fwy…

3. Gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn Nhŷ Pawb

Mae yna bethau’n digwydd yn Nhŷ Pawb bob wythnos fel rhan o’u rhaglen gwyliau haf – ac mae’r cyfan am ddim!

Mae yna weithgareddau i bob oed – yn cynnwys ffilmiau, crefftau, comics, adeiladu den, a hyd yn oed arddio!

Darllenwch fwy…

4. Cymerwch ran yn y Diwrnod Chwarae (4 Awst)

Yn hytrach na bod wedi’i leoli yng nghanol y dref, bydd y Diwrnod Chwarae wedi ei wasgaru ar draws y fwrdeistref sirol eleni – gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan.

Dilynwch Dîm Chwarae Wrecsam ar Facebook a Twitter er mwyn cael mwy o wybodaeth…

5. Ymwelwch â’n parciau a’n parciau gwledig

Mae bod allan yn yr awyr iach yn wych i blant (ac oedolion hefyd). Mae yna lwyth o ofodau awyr agored gwych yn y fwrdeistref sirol, a gall trip i’ch parc lleol gael gwared ar y gwe pry cop.

Ac wrth gwrs, mae gennym barciau gwledig gwych yn Wrecsam – yn cynnwys Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Thŷ Mawr.

6. Mynd i nofio

????
Mae nofio yn llawer o hwyl, yn ymarfer corff gwych, ac yn sgil a allai achub bywydau. Felly pam na ddewch chi i weld beth y gall Freedom Leisure ei gynnig ichi ym Myd Dŵr, y Waun a Gwyn Evans (Gwersyllt) yr haf hwn?

Darllenwch fwy…

7. Chwarae pêl-droed!

????
Mae yna lwyth o gyfleoedd i ferched a bechgyn fwynhau’r gêm brydferth yr haf hwn.

Er enghraifft, mae Sefydliad Cymunedol y Cae Ras (elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Wrecsam) yn cynnal hybiau pêl-droed i ferched 4-11 oed drwy gydol y gwyliau.

⚽️ ???????????? ???????????????????? ???????????????????????????????? ????????????????! ⚽️

???? Chirk, Caia Park, Gwersyllt
????️ Tuesdays, Wednesdays & Fridays over summer
???? For ages 4-11
???? £3 per session
✨ Loads of Fun

To book fill in our online registration form…
???? https://t.co/gLYoLFEOZS pic.twitter.com/ihLGPCAjii

— Racecourse Community Foundation (@Racecourse_C_F) July 14, 2021

Ac os oes gan eich plentyn ddiddordeb ymuno â thîm pêl-droed lleol, dyma’r amser i wneud hynny (cyn i’r tymor ddechrau). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rhan fwyaf o dimau llawr gwlad ar Facebook.

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Yn cyflwynor lle celf ddefnyddiol gofod oriel newydd sbon gyda gwahaniaeth
Erthygl nesaf Playday Diwrnod Chwarae 4 Awst yn dod i gymunedau ar draws Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

COVID-19 and your business: how to get found online
Sesiynau galw heibio digidol – sesiynau i ddod i ateb eich cwestiynau TG
Busnes ac addysg Digwyddiadau Ionawr 27, 2026
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lleY cyngor

Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026

Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr

Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Busnes ac addysgPobl a lle

Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn

Ionawr 20, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English