Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn rhan o’r Wythnos Fawr Werdd 2021
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Byddwch yn rhan o’r Wythnos Fawr Werdd 2021
ArallFideo

Byddwch yn rhan o’r Wythnos Fawr Werdd 2021

Diweddarwyd diwethaf: 2021/09/09 at 9:19 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Great Big Green Week
RHANNU

Mae’r Wythnos Fawr Werdd yn digwydd rhwng 18 a 26 Medi, ble bydd cymunedau ar draws y wlad yn dod at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad hinsawdd a natur mwyaf a welwyd yn y DU.

Mae gwahoddiad i bawb gymryd rhan er mwyn dangos ein bod yn malio a’n bod yn barod i gymryd camau i annog gweithrediad a brwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Sut alla i gymryd rhan yn yr Wythnos Fawr Werdd?

Mae’n hawdd iawn i unrhyw un gymryd rhan – gall ysgolion gynnal gwasanaeth arbennig yn seiliedig ar newid hinsawdd, neu gall grwpiau drefnu digwyddiadau fel trefnu i’r gymuned ddod ynghyd i godi sbwriel. Gall unigolion gymryd rhan drwy wneud rhywbeth mor fach â phlannu blodau gwyllt neu blanhigion ar gyfer yr hydref mewn ardal yn eu gardd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i drefnu digwyddiad a sut i gymryd rhan drwy fynd i wefan yr Wythnos Fawr Werdd.

neu gwyliwch y fideo isod gan y trefnwyr – The Climate Coalition

(Saesneg yn unig)

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae digwyddiadau diweddar ar draws y byd yn dangos yr effaith mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein bywydau. O danau gwyllt cynddeiriog i lifogydd mawr, gall eu heffaith ar boblogaethau a’r amgylchedd fod yn ddinistriol.

“Cafwyd llifogydd yma yn Wrecsam yn gynharach yn y flwyddyn, ac rydym ni wedi gweld yr effaith a gafodd hyn ar Fangor-Is-y-Coed, Holt a’r difrod a achoswyd i’r B5605 yn Newbridge, sy’n achosi anhwylustod i’r cymunedau lleol.

“Nawr yw’r amser i weithredu a buaswn yn annog grwpiau, sefydliadau ac unigolion ar draws Wrecsam i gymryd rhan yn yr wythnos drwy un ai gynnal digwyddiad neu gymryd rhan mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu yn eich ardal.”

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol CThEM yn rhybuddio myfyrwyr rhag sgamiau CThEM yn rhybuddio myfyrwyr rhag sgamiau
Erthygl nesaf Beware of DVLA email scam asking you to update details Parciwch yn ofalus ac yn gyfreithlon wrth ymweld â Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 26, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Hedgehog
Arall

Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?

Awst 19, 2025
Dog
Arall

Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?

Awst 19, 2025
Landlords
Arall

Cynllun prydlesu yn creu cyflenwad o dai fforddiadwy yn Wrecsam

Awst 12, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English