Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Gorau ar Ailgylchu! Bydd Wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyngor Gorau ar Ailgylchu! Bydd Wych. Ailgylcha.
Pobl a lle

Cyngor Gorau ar Ailgylchu! Bydd Wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/09/23 at 12:05 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyngor Gorau ar Ailgylchu! Bydd Wych. Ailgylcha.
RHANNU

Mae ailgylchu popeth y gallwch yn fwy gwych na feddyliech chi! Yng Nghymru, rydyn ni ar flaen y gad gydag ailgylchu, a ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae angen eich help arnom i gyrraedd rhif un drwy ailgylchu mwy o’r pethau cywir yn fwy aml, gyda’n gilydd.

Cynnwys
1. Os yw wedi’i wneud o blastig, a siâp potel iddo, ailgylchwch ef2. Dangoswch i’r potiau plastig pwy di’r bos3. Ailgylchwch ganiau erosol o bob ystafell4. Ailgylchwch eich holl wastraff bwyd5. Gwasgwch eich caniau

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yng Nghymru, mae mwy na 92% ohonom yn ailgylchu’n rheolaidd, ond gyda’n hanner ni yn dal i beidio ailgylchu popeth posibl, mae angen inni fynd gam ymhellach ac ailgylchu mwy. Pe byddai pob un ohonom yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu un peth arall bob dydd, buasai’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

Trefnwch eich apwyntiad brechlyn Covid-19 ar-lein.

Byddwch yn ailgylchwr gwych a helpu i daclo newid hinsawdd. Drwy wneud rhywbeth gwych heddiw, gallwch helpu i gael Cymru i rif un yn y byd am ailgylchu!

Dyma ambell air o gyngor ar gyfer ailgylchu popeth y gallwch:

1. Os yw wedi’i wneud o blastig, a siâp potel iddo, ailgylchwch ef

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu. A dweud y gwir, mae mwy nag 88% ohonom yn ailgylchu poteli plastig fel poteli diodydd, nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofiwch wagio, gwasgu a rhoi’r caead yn ôl cyn ailgylchu. Gellir gadael y caead chwistrell ar boteli glanhau.

2. Dangoswch i’r potiau plastig pwy di’r bos

Rhowch rinsiad sydyn i’ch potiau a thybiau cyn eu hailgylchu; cofiwch dynnu unrhyw haenen blastig. Does dim angen cael pob tamaid o fwyd oddi arnynt, ac mae eu rhoi yn y peiriant golchi llestri yn mynd dros ben llestri – ac yn wastraff ynni!

3. Ailgylchwch ganiau erosol o bob ystafell

Mae caniau erosol wedi’u gwneud o fetel ailgylchadwy a gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro heb i’w hansawdd ddirywio. Cofiwch ailgylchu eich erosolau gwag, yn cynnwys chwistrell gwallt, diaroglydd, gel eillio a chwistrellau a ddefnyddiwch o gwmpas y cartref, fel polish neu ddiaroglydd aer.

4. Ailgylchwch eich holl wastraff bwyd

Er bod 90% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, mae rhywfaint ohono’n dal i gyrraedd y bin sbwriel. Cofiwch y gallwch ailgylchu hen fagiau te, gwaddodion coffi, plisg wyau, esgyrn a chrafion oll.

5. Gwasgwch eich caniau

Os gwnewch chi wasgu eich caniau gwag, fe wnaiff arbed lle yn eich bin ailgylchu a’u gwneud yn fwy effeithlon i’w cludo. Gwasgwch eitemau ffoil at ei gilydd yn llac i’w helpu i fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.

#WythnosAilgylchu #ByddWychAilgylcha

Golau gwyrdd eto ar gyfer Wythnos Ailgylchu

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg. Bydd draig gyllyll yn cael ei defnyddio fel arf ar gyfer addysg.
Erthygl nesaf Rhos Aelwyd Pêl-droed yn Cael Hwb Pellach wrth i’r Pafiliwn Newydd ar gyfer Clwb Pêl-droed Aelwyd Rhos Agor

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Awst 22, 2025
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Burma Star memorial in Wrexham
DigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth coffa Diwrnod VJ yn Wrecsam

Awst 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English