Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF
ArallPobl a lle

CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 22, 2017 10:16 am
Rhannu
Darllen 3 funud
CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF
RHANNU

Fe greodd preswylydd o Wrecsam a cherfiwr proffesiynol Simon O’Rourke hanes yr wythnos diwethaf, wrth iddo gerfio rhew yn y dref am y tro cyntaf yn ystod digwyddiad llwyddiannus yn Amgueddfa Wrecsam.

Fe gerfiodd y cerfiwr talentog gerflun o bengwiniaid o flaen cynulleidfa a oedd wedi’i mesmereiddio yn ystod un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn i’r amgueddfa.

“Mae’n ddigwyddiad gwych ac mae’n syniad da iawn. Dwi’m yn meddwl bod neb wedi gweld cerfio ia yn Wrecsam o’r blaen, felly mae hi’n braf gallu dangos rhywbeth newydd!” meddai Simon.

“Mae’n arbennig iawn. Dwi’n falch iawn fy mod wedi gallu cyflwyno rhywbeth sydd heb ei weld o’r blaen. Mae hi’n braf bod yn rhan o hynny a gallu creu hanes.”

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Gyda degawd o brofiad yn y diwydiant, mae Simon wedi bod yn cael effaith fawr gyda’i gelf yn y rhanbarth a thu hwnt ar draws y byd, ond adref  i Wrecsam y daw bob amser.

“Cerfio pren ydi cefndir fy ngyrfa. Fe ddechreuais fel graddedig darlunio o Glyndŵr, yna fe symudais ymlaen i fod yn feddyg coed a dysgu sut i ddefnyddio’r lif gadwyn ac yna fe welais i rywun yn cerfio am y tro cyntaf… ac yna fe roddais gynnig arno a mwynhau’n fawr.

“Mae hi’n ddeng mlynedd bellach ers i mi ddechrau fel cerflunydd, ac mae hi wedi bod yn wych.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Yn Yr Orsedd mae fy ngweithdy ac rydw i’n gwneud llawer o waith ym Mhlasau. Rydw i’n artist-breswylydd yn Erddig eleni a’r flwyddyn nesaf, felly mae hi’n wych dangos i bobl ei bod yn bosibl bod yn artist llawn amser a gwneud bywoliaeth gan wneud rhywbeth rydych chi’n ei garu.

Fe ddenodd y digwyddiad gynulleidfa fawr a chafodd ei gefnogi gan nifer o fusnesau lleol a’i noddi gan Wrexham Lager, a fuodd wrthi’n tywallt peintiau o’u fan yng nghwrt blaen yr adeilad.

Gan fod yr arddangosfeydd a’r caffi ar agor i’r cyhoedd gyda digonedd o weithgareddau i’r hen a’r ifanc eu mwynhau, cafodd llawer o bobl sydd ddim fel arfer yn cael y cyfle i fwynhau’r rhyfeddodau sydd gan yr amgueddfa i’w cynnig – gan gynnwys yr arddangosfeydd diweddaraf am archarwyr.

Mae’r amgueddfa ar agor trwy gydol y flwyddyn gyda digonedd o nodweddion newydd i gadw llygad amdanynt, gan gynnwys ‘Gwres y Gad’ sydd i’w weld tan 6 Ionawr 2018.

Gallwch ddilyn yr amgueddfa ar Facebook a Twitter

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cadwch lygad allan am werthwyr pysgod Cadwch lygad allan am werthwyr pysgod
Erthygl nesaf Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn... Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English