Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadwch lygad allan am werthwyr pysgod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cadwch lygad allan am werthwyr pysgod
Pobl a lle

Cadwch lygad allan am werthwyr pysgod

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/21 at 11:06 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Cadwch lygad allan am werthwyr pysgod
RHANNU

Mae gwerthwyr ffug bob amser yn gymeriadau amheus – ond mae trigolion yn cael eu rhybuddio am grŵp o werthwyr hyd yn oed yn fwy amheus na’r rhan fwyaf sy’n yr ardal ar hyn o bryd.

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus o werthwyr ffug sy’n ceisio perswadio deiliaid tai i brynu pysgod ffres.

Mae adroddiadau wedi nodi fod gwerthwyr yn mynd o ddrws i ddrws yn ceisio gwerthu pysgod i breswylwyr, gan gynnwys yr henoed a phobl agored i niwed.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Ond fel arfer, mae’r gwerthwyr hyn yn tueddu i werthu pysgod o ansawdd gwael neu is na’r safon, ac maent yn rhoi pwysau ar bobl i brynu llawer mwy na fyddent ei angen.

“Peidiwch â chael eich temtio gan werthwyr ar garreg y drws”

Dywedodd Rebecca Pomeroy, Arweinydd Bwyd a Ffermio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Wrecsam:  “Rydym yn bryderus am y mater hwn, yn arbennig os nad yw’r gwerthwyr wedi cofrestru fel gweithredwyr busnes bwyd – sy’n ofynnol o dan y gyfraith – ac os nad ydynt yn cadw at yr holl reoliadau iechyd a hylendid priodol.

“Wrth brynu pysgod gan werthwyr sy’n mynd o ddrws i ddrws, ni fydd y prynwr yn gallu gwirio sut mae’r pysgod wedi’u storio a p’un a ydynt yn ddiogel i’w bwyta. Mae gwerthwyr ffug fel hyn yn tueddu i beidio â defnyddio faniau oergell ac mae’n debygol y bydd problemau â’r labeli, safon y pysgod a’r disgrifiadau.  Mae’n bosibl y byddant hefyd yn rhoi pwysau ar drigolion sy’n agored i niwed i brynu mwy nag sydd ei angen arnynt.

“Fel unrhyw un sy’n galw ar garreg y drws, rydym yn annog pobl i beidio â chael eu temtio i brynu a gofyn iddynt adael.  Y lle gorau i brynu pysgod yw gan werthwyr pysgod mewn siop neu stondin sefydledig neu hyd yn oed gan fasnachwr sydd â rownd reolaidd wedi’i threfnu o flaen llaw”

Gall unrhyw un sydd angen cyngor am werthwyr ar garreg y drws, neu sy’n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 03454 04 05 05 (llinell Gymraeg) neu 03454 04 05 06 (llinell Saesneg)  sy’n gallu rhoi cyngor annibynnol a diduedd am ddim am unrhyw faterion defnyddwyr.

Neu, gallant hefyd ffonio’r heddlu ar 101.

Dylai unrhyw un sy’n cael eu dychryn neu sy’n teimlo dan fygythiad unrhyw werthwyr ar garreg y drws gau’r drws a ffonio rhif argyfwng yr heddlu sef 999.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI

Rhannu
Erthygl flaenorol 20.12.17: Diweddariad ar Wasanaethau Bws - Gwasanaeth Newydd i ran-Gyflenwi hen Lwybr Rhif 6 20.12.17: Diweddariad ar Wasanaethau Bws – Gwasanaeth Newydd i ran-Gyflenwi hen Lwybr Rhif 6
Erthygl nesaf CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Terry Fox Run
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd

Mehefin 27, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English