Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prosiect Isadeiledd Gwyrdd i adael etifeddiaeth barhaus yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Prosiect Isadeiledd Gwyrdd i adael etifeddiaeth barhaus yn Wrecsam
Y cyngor

Prosiect Isadeiledd Gwyrdd i adael etifeddiaeth barhaus yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 14, 2022 11:03 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Green Infrastructure
RHANNU

Fe lansiwyd y prosiect dwy flynedd ym mis Mawrth 2020 ac mae ardaloedd gwyrdd yn y ddwy ardal brosiect; Parc Caia a Phlas Madoc, wedi’u gwella ar ôl i fwy na 250 o wirfoddolwyr a chyfranogwyr blannu dolydd blodau gwyllt, coed a bylbiau.

Gyda’i gilydd, mae mwy na 1.2 hectar o ddolydd blodau gwyllt wedi’u hadu (a’u cynaeafu) ar draws yr ardaloedd prosiect, sy’n darparu noddfeydd gwerthfawr i’n bywyd gwyllt, yn enwedig gwenyn a gloÿnnod byw, ac mae’n gwella’r ardaloedd i bawb.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae cyfanswm enfawr o 5000 o fylbiau wedi’u plannu, ynghyd â 200 o goed ffrwythau i greu perllannau a 1500 o rywogaethau coed brodorol fel derw, bedwen arian, coed ynn, coed cyll, ffawydd, draenen ddu a draenen wen.

Mae gwaith rheoli coetir wedi’i wneud ar 3 hectar o dir hefyd ym Mharc Caia i wella mynediad ac agor ardaloedd ar gyfer hamdden a chwarae.

Dywedodd yr arweinydd prosiect Isadeiledd Gwyrdd, Jacinta Challinor, “Mae wedi bod yn ymdrech wych ac mae ymdeimlad o gymuned yn Wrecsam. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chymunedau ym Mharc Caia a Phlas Madoc yn ogystal â’n partneriaid prosiect, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chadwch Gymru’n Daclus.

“Fe fydd yr ardaloedd dan sylw wedi’u gwella a bydd y coed yn benodol yn cyfrannu at leihau ein hôl troed carbon a chyfrannu at helpu’r effaith a welir o ganlyniad i newid hinsawdd.”

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Fe fydd y buddion parhaus i’n cymunedau i’w gweld am flynyddoedd i ddod a hoffwn ddiolch i Jacinta am ei holl waith caled a gwerthfawr dros y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau bod y prosiect yn parhau yn ystod y cyfnod clo hyd yn oed, trwy fynd â’r gwaith ar-lein am gyfnod.

“Mae’n rhaid i ni ddiolch i’r cymunedau lleol hefyd am eu cefnogaeth wych i’r prosiect.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Civic Pride Presentation Plastrwyr Arwrol Lleol yn derbyn Gwobr Balchder Bro
Erthygl nesaf Cais Dinas Diwylliant y DU – stori Wrecsam (hyd yn hyn) Cais Dinas Diwylliant y DU – stori Wrecsam (hyd yn hyn)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English