Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pythefnos sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar ddod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Pythefnos sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar ddod
ArallPobl a lle

Pythefnos sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau sydd ar ddod

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 31, 2022 1:21 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Eich pleidlais
RHANNU

Dim ond pythefnos sydd i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, ac mae Cyngor Wrecsam am annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond pum munud mae’n ei gymryd.

Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar lefel leol. Eleni, bydd trigolion yn Wrecsam yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy’n cynrychioli eu hardal leol a’i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Dywedodd Ian Bancroft, y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Wrecsam: “Gyda dim ond pythefnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau lleol. Mae’r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy’n eich cynrychioli ar faterion sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yn Wrecsam. Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Dim ond os ydych wedi cofrestru i bleidleisio y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau hyn, ac mae’r dyddiad cau yn prysur nesáu. Mae’n gyflym ac yn hawdd – dim ond pum munud mae’n ei gymryd ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio.

“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.

“Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol man writing by a computer Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth
Erthygl nesaf Mae gennym sawl cyfle cyffrous ar gyfer swydd yn gweithio o fewn Gofal Cymdeithasol Plant Mae gennym sawl cyfle cyffrous ar gyfer swydd yn gweithio o fewn Gofal Cymdeithasol Plant

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English