Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arddangosfa Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd ar ddangos
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Arddangosfa Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd ar ddangos
Arall

Arddangosfa Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd ar ddangos

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 21, 2022 2:55 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
key cities
Pontcysyllte Aqueduct, World Heritage site in Wrexham
RHANNU

Erthygl gwadd – Ein Tirlun Darluniadwy

Bydd yr arddangosfa awyr agored ‘Custodians’ sy’n canolbwyntio ar y rhai sy’n gofalu am dirwedd Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei chynnal yn dilyn y Pasg.

Fel rhan o brosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn Nyffryn Dyfrdwy, mae’r Artistiaid Preswyl, Jessica a Philip Hatcher-Moore wedi cyfweld a thynnu lluniau o’r bobl leol sy’n gofalu am y dirwedd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae Jessica wedi ysgrifennu disgrifiad am bob un o’r unigolion sy’n cyd-fynd â lluniau a dynnwyd gan Philip.  Cyfunwyd y rhain ar fyrddau i’w harddangos ar y dirwedd.

Arddangoswyd pump o’r byrddau hyn yng Ngwarchodfa Natur Wenffrwd ym mis Hydref 2021, a bydd modd gweld yr arddangosfa lawn sy’n cynnwys deg bwrdd ar hyd y llwybr rhwng gorsaf Berwyn a’r Bont Gadwyni, Llangollen, ym mis Ebrill 2022.

Mae’r Rheilffordd hefyd yn awyddus i arddangos y gwaith yn eu digwyddiad lansio yng Nghorwen pan fydd yr orsaf yn agor yn ffurfiol yn nes ymlaen yn y flwyddyn.  Bydd modd gweld yr arddangosfa mewn lleoliadau eraill yn Nyffryn Dyfrdwy dros y misoedd nesaf.

Bydd y gwaith partneriaeth yn caniatáu i ragor o bobl, pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr â’r ardal, ymgysylltu â’r lluniau a’r straeon a gasglwyd gan Hatcher-Moores yn ystod eu cyfnod preswyl.

Meddai Jessica Hatcher-Moore;“Rwy’n credu bod gan bob ardal gymeriadau nodweddiadol, ond rwy’n credu bod hynny’n arbennig o wir yma yn Nyffryn Dyfrdwy. Fel y gwelir yn y straeon, mae tirwedd ddramatig yr ardal wedi bod yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl dros y canrifoedd, ac mae wedi bod yn bleser archwilio’r effaith y mae’n parhau i’w chael ar bobl hyd heddiw.

“Y peth amlycaf i mi o’r straeon hyn oedd yr ysbryd cymunedol sy’n parhau i ffynnu yn Nyffryn Dyfrdwy – a’r ffordd y mae’r dirwedd, a’i hanes cymdeithasol a naturiol cyfoethog, yn cefnogi hynny.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am roi’r cyfle i ni i archwilio’r straeon hyn”.

Meddai Philip Hatcher –Moore: “Mae arddangos y lluniau hyn yn yr awyr agored ac ar y dirwedd lle cawsant eu tynnu yn ychwanegu dimensiwn arall at y gwaith, gyda’r cydadwaith rhwng golau a chysgodion yn y lluniau” meddai’r ffotograffydd, Philip Hatcher-Moore, sy’n arbenigo mewn arddangosfeydd awyr agored o’i waith.

Dywedodd Phil Coles, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen: “Mae Rheilffordd Llangollen yn falch o helpu’r AHNE lleol drwy’r prosiect hwn, a gobeithiwn y bydd yn helpu ymwelwyr â’r ardal i ddeall mwy am hyfrydwch Dyffryn Dyfrdwy.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol £57 miliwn wedi ei golli o ganlyniad i dwyll cysylltu-o-bell! Sut i osgoi colli’ch arian £57 miliwn wedi ei golli o ganlyniad i dwyll cysylltu-o-bell! Sut i osgoi colli’ch arian
Erthygl nesaf Parents Newyddion Llyfrgelloedd: Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English