Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Oes arnoch chi angen gwaith wedi’i wneud ar goeden yn eich gardd? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio meddyg coed proffesiynol.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Oes arnoch chi angen gwaith wedi’i wneud ar goeden yn eich gardd? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio meddyg coed proffesiynol.
Y cyngor

Oes arnoch chi angen gwaith wedi’i wneud ar goeden yn eich gardd? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio meddyg coed proffesiynol.

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 28, 2022 10:26 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Tree Work
RHANNU

Mae Safonau Masnach wedi derbyn ychydig o gwynion yn ddiweddar lle mae unigolion ar eu colled naill ai ar ôl i alwyr digroeso anghymwys ymgymryd â gwaith neu ar ôl i alwyr digroeso gymryd arian heb wneud braidd dim gwaith.

Mae’r mathau yma o alwyr digroeso sy’n cynnig gwneud gwaith ar goed fel rheol yn galw heibio ar ôl tywydd garw, ond gallant alw heibio ar unrhyw adeg arall hefyd. Gall caniatáu i gontractwr anghymwys, heb yswiriant, docio neu dorri coed arwain at ganlyniadau difrifol

- Cofrestru -
Wrecsam2029

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Os na chaiff y gwaith ei wneud yn iawn mae perygl go iawn o anaf, difrod i eiddo neu niwed difrifol i’ch coeden. Fel perchennog eiddo fe allwch chi hefyd fod yn atebol os yw unigolion eraill neu eiddo unigolion eraill yn cael eu heffeithio.

Os oes gwaith angen ei wneud ar goeden yn eich gardd, defnyddiwch dyfwr coed (meddyg coed) proffesiynol a chynhaliwch wiriadau cyn i chi roi caniatâd iddyn nhw wneud y gwaith.

Bydd busnesau proffesiynol a chymwys yn ymweld â’r safle i drafod eich anghenion ac i gytuno ar y gwaith sydd angen ei wneud a pha waith fydd yn cael ei wneud.

Mae gwaredu gwastraff yn rhan fawr o’r gwaith a’r gost, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod yn union beth i’w ddisgwyl. Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig yn rhestru’r hyn sydd wedi’i drafod a’i gytuno arno. Gofynnwch am weld tystiolaeth o’u hyswiriant a gwnewch yn siŵr bod gennych chi fanylion llawn y busnes (enw, cyfeiriad ac ati) cyn i chi gytuno ar y gwaith. Gofynnwch am argymhellion gan aelod o’ch teulu neu’ch ffrindiau hefyd.

“Dylai unrhyw un sydd angen gwneud gwaith ar goeden wneud gwaith cartref yn gyntaf”

Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Dydi gwaith coed diogel o ansawdd ddim yn rhad, ond peidiwch â chael eich hudo gan alwyr digroeso sy’n cynnig gwneud y gwaith yn sydyn ac yn rhad. Ar y gorau gwaith gwael ydyw neu fynydd o frigau a dail i’w clirio.

“Mae’n bwysig cymryd gofal mawr pan fyddwch chi’n penodi contractwr i wneud unrhyw fath o waith ond gyda gwaith coed, gall gadael galwr digroeso, gyda llif gadwyn, yn rhydd yn eich gardd fod yn drychinebus.

“Dylai unrhyw un sydd angen gwneud gwaith ar goeden dderbyn cymorth ffrindiau neu berthnasau os oes angen, i wneud yn siŵr bod y contractwr yn gymwys ac yn meddu ar yr yswiriant priodol.”

Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.trees.org.uk/Help-Advice/Public/Choose-your-Tree-Surgeon

Os ydych chi’n cael pobl yn galw yn ddigroeso yn cynnig gwneud gwaith ar goed, ffoniwch yr heddlu ar 101.

Os oes arnoch chi angen cyngor ar faterion defnyddwyr, cysylltwch â Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (1133 Saesneg) neu ewch i https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Litter #CaruCymru – Peidiwch â difaru ac ewch a’ch sbwriel adref
Erthygl nesaf Newydd droi’n 16 oed? Pleidleisio am y tro cyntaf? Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Newydd droi’n 16 oed? Pleidleisio am y tro cyntaf? Ddim yn siŵr lle i ddechrau?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Awst 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English