Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Hafan y Dref ar agor bob dydd Sadwrn ar gyfer y rhai sydd angen cymorth yn ystod noson allan.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Hafan y Dref ar agor bob dydd Sadwrn ar gyfer y rhai sydd angen cymorth yn ystod noson allan.
Y cyngor

Mae Hafan y Dref ar agor bob dydd Sadwrn ar gyfer y rhai sydd angen cymorth yn ystod noson allan.

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 15, 2022 10:11 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Hafan y Dref
RHANNU

Gall ymwelwyr i Wrecsam yn ystod nosweithiau Sadwrn gael eu sicrhau fod lloches ddiogel iddynt os ydynt yn teimlo’n wael neu’n cael problemau gan fod Canolfan Les Hafan y Dref yno i ddarparu cymorth 10pm – 4am.

Mae’r ganolfan les yn cael ei gweithredu a’i staffio gan Events Medical Team www.eventsmedicalteam.com; a p’un a fyddwch chi wedi colli eich ffrindiau, heb bŵer batri ar eich ffôn i’w ffonio nhw, neu’n rhy feddw i gyrraedd adref, maen nhw yno i helpu a chynnig man diogel i chi gadw’n saff.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Maent hefyd yn patrolio’r strydoedd i sicrhau nad yw unrhyw un sydd angen cymorth neu gyngor yn cael eu methu, a rhoi fflip fflops a dŵr i’r rhai sydd eu hangen.

Ble mae Hafan y Dref

Mae Hafan y Dref yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Allt y Dref ger clwb nos Atik felly mae’n hawdd dod o hyd iddo.

Mae’r Ganolfan yn un o nifer o fentrau sydd mewn lle yng nghanol Wrecsam i gynorthwyo unrhyw un sydd angen cymorth yn ystod noson allan a chânt eu cefnogi gan staff drysau, swyddogion heddlu, bugeiliaid stryd ac wrth gwrs, teulu a ffrindiau.

Dywedodd y Cyng. Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, “Mae Hafan y Dref yn gyfleuster gwych, mae cymorth yno i unrhyw un sydd angen help llaw wrth fwynhau noson allan.

“Mae gan y ganolfan enw da am leihau’r pwysau ar wasanaethau brys a darparu cymorth uniongyrchol i unrhyw un sydd angen help. Nid ydynt yn barnu unrhyw un sydd yn o i gael cymorth ac maent yn atal unrhyw drallod neu niwed diangen.”

Agorwyd Hafan y Dref am y tro cyntaf yn Rhagfyr 2015 gyda’r nod o ddarparu gofod diogel i bobl oedd wedi dod yn ddiamddiffyn yn sgil gormod o alcohol neu gyffuriau, dderbyn sylw meddygol a chymorth.

Mae’r ganolfan yn darparu cyfuniad o asesiad meddygol, adferiad dan oruchwyliaeth ac yn rhyddhau.

Mae’r ganolfan hefyd yn darparu gwasanaethau eraill, megis gofal bugeiliol, ac atgyfeirio i wasanaethau eraill. Gall hefyd ddarparu sylfaen ffisegol i bartneriaid sy’n rheoli’r economi nos leol.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Extreme Heat Byddwch yn ymwybodol – Rhybudd Gwres Llethol wedi’i gyflwyno ar gyfer ardal Wrecsam
Erthygl nesaf Tŷ Pawb ‘yn ail falch’ wrth i Amgueddfa a Gerddi Horniman ennill Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf Tŷ Pawb ‘yn ail falch’ wrth i Amgueddfa a Gerddi Horniman ennill Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English