Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymerwch ofal ychwanegol yn y gwres llethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cymerwch ofal ychwanegol yn y gwres llethol
ArallPobl a lle

Cymerwch ofal ychwanegol yn y gwres llethol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2022 12:59 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Extreme Heat
RHANNU

Erthyl gwadd – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i gymryd gofal ychwanegol yn y gwres llethol sy’n cael ei ragweld dros y dyddiau nesaf. Mewn rhai rhannau o Gymru, disgwylir i’r tymheredd gyrraedd dechrau i ganol y tridegau erbyn dydd Llun.

Gall tywydd poeth iawn sy’n para am ychydig ddiwrnodau, neu fwy, achosi dadhydradu, gorgynhesu, gorludded gwres a thrawiad gwres. Mae’n bwysig iawn gofalu am blant, yr henoed a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. Cysylltwch yn rheolaidd ag anwyliaid, ffrindiau, teulu a chymdogion.

Cynghorir eich bod yn gwneud newidiadau i’ch trefn arferol er mwyn ymdopi â’r gwres llethol. Mae hyn yn cynnwys osgoi gweithgarwch egnïol yng nghanol y dydd pan fydd yr haul ar ei boethaf, yfed digon o ddŵr a gwisgo het, eli haul a dillad lliw golau, llac, yn ddelfrydol gyda llewys hir. Cadwch ystafelloedd yn oerach drwy gau bleindiau a llenni a chau ffenestri.

Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Nid ydym yn gyfarwydd â gwres llethol yng Nghymru, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn ei drin fel diwrnod poeth arall yn unig. Dylech gymryd gofal ychwanegol i ddilyn y cyngor iechyd i ddiogelu eich hun ac eraill.”

Meddyliwch yn ofalus cyn i chi ymgymryd â gweithgareddau a chynlluniwch ymlaen llaw bob amser. Os ydych yn cynnal digwyddiad awyr agored, sicrhewch eich bod wedi gwneud asesiad risg sy’n cynnwys y tywydd eithafol.

Gall plant ifanc ei chael yn anodd rheoleiddio tymheredd eu corff, felly cymerwch ofal i’w cadw’n oer. Peidiwch â gorchuddio pramiau neu fygis babanod â blancedi neu lieiniau – mae hyn yn atal aer rhag cylchredeg a gall ei wneud yn boethach iddynt. Os yw’r rhai bach yn cysgu mewn ystafell sy’n anodd ei hoeri, defnyddiwch ddillad gwely a dillad ysgafnach ac agor y drws a ffenestr, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

Os ydych yn teimlo’n benysgafn, yn wan, yn bryderus neu’n profi syched dwys a phen tost/cur pen yn ystod y tywydd poeth, rhowch wybod i rywun a chymryd y camau gweithredu canlynol.

  • Symudwch i le oer cyn gynted â phosibl.
  • Yfwch rywfaint o ddŵr neu sudd ffrwythau i ailhydradu
  • Dylech orffwys ar unwaith mewn lle oer os byddwch yn profi gwingo poenus yn y cyhyrau (yn enwedig yn y coesau, breichiau neu’r stumog ar ôl ymarfer corff parhaus yn ystod tywydd poeth iawn) ac yfwch laeth neu sudd ffrwythau.
  • Bydd angen sylw meddygol os bydd crampiau gwres yn para mwy nag awr.
  • Cysylltwch â’ch meddyg os byddwch yn teimlo symptomau anarferol neu os bydd y symptomau’n parhau.

Mae’n bwysig gwybod symptomau trawiad gwres. Ffoniwch 999 os credwch fod rhywun yn cael trawiad gwres, gan ei fod yn argyfwng meddygol. Os ydych yn pryderu am unrhyw symptomau rydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn eu profi, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ewch i GIG 111 Cymru i gwirio eich symptomau.

Symptomau trawiad gwres

  • Teimlo’n sâl ar ôl 30 munud o orffwys mewn lle oer ac yfed digon o ddŵr.
  • Ddim yn chwysu, hyd yn oed wrth deimlo’n rhy boeth
  • Tymheredd uchel o 40C neu uwch
  • Anadlu’n gyflym neu brinder anadl
  • Teimlo’n ddryslyd
  • Ffit (neu drawiad)
  • Anymwybodol
  • Ddim yn ymatebol

Gall y tymheredd uchel ei gwneud yn demtasiwn neidio i afonydd, llynnoedd a dŵr arall, ond gall y dŵr fod yn oer iawn o hyd ac mae perygl o ddioddef sioc dŵr oer. Os byddwch yn mynd i drafferth yn y dŵr, cofiwch #Arnofio i Fyw. Mae peryglon boddi hefyd yn uwch os yw pobl wedi bod yn yfed neu’n cymryd cyffuriau.

Mae rhagor o wybodaeth am wres eithafol ar gael ein tudalennau tywydd poeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Prosiect Gwaith Chwarae 2022/23 - beth am roi cynnig arni dros wyliau’r haf? Prosiect Gwaith Chwarae 2022/23 – beth am roi cynnig arni dros wyliau’r haf?
Erthygl nesaf Her Ddarllen yr Haf! Her Ddarllen yr Haf!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English