Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhagor o gartrefi wedi eu gwella diolch i’n prosiect moderneiddio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhagor o gartrefi wedi eu gwella diolch i’n prosiect moderneiddio
Pobl a lleY cyngor

Rhagor o gartrefi wedi eu gwella diolch i’n prosiect moderneiddio

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 19, 2018 2:10 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Rhagor o gartrefi wedi eu gwella diolch i’n prosiect moderneiddio
RHANNU

Mae tenantiaid y Cyngor wedi derbyn ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd fel rhan o’n prosiect sylweddol o waith i wella cartrefi.

Cynnwys
  • Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi dweud ie
  • Mae cartrefi yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol
  • Miloedd o dai eisoes wedi cael eu gwella

Rhiwabon yw un o’r ardaloedd diweddaraf lle mae gwaith gwella wedi ei wneud i gartrefi dan berchnogaeth y cyngor. Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau i sicrhau ein bod yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Mae cynllun Tai Gwarchod St Michael’s yn Rhiwabon yn cynnwys 38 eiddo unigol.

Yn wahanol i gartrefi nyrsio, mae ein cynlluniau tai gwarchod yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol, fflatiau un ystafell neu fyngalos gyda’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hunain. Mae Warden a Chanolfan Larwm Cymunedol yn darparu gwasanaeth 24 awr os oes argyfwng. Maent wedi eu hanelu at bobl oedran ymddeol a fyddai’n hoffi cynnal eu hannibyniaeth ond a fyddai’n elwa o gael rhywun i’w alw mewn argyfwng.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Rhagor o gartrefi wedi eu gwella diolch i’n prosiect moderneiddio
Tom & Julie Kenmuir, Sheila Jones (tenantaid y cyngor), Y Cyng. Dana Davies (Aelod Lleol i Rhiwabon), Sheila Wildsmith (tenant y cyngor), James Jones (GM Jones), Kay James (GM Jones), Craig Daniels (GM Jones)

Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi dweud ie

Croesawodd Mr Tom Kenmuir ac Mrs Julie Kenmuir, sy’n byw yn St Michael’s, y gwaith gwella. Dywedodd Mrs Kenmuir: “Gall fod yn dipyn o waith cael cegin newydd wedi ei gosod, ond i fod yn deg roedd y gweithwyr yma yn wych. Cyfeillgar a chwrtais iawn. Y darn anoddaf yw wrth iddynt dynnu’r hen gegin allan, ond unwaith mae hynny wedi ei wneud a’ch bod yn dechrau gweld y gegin newydd yn dod at ei gilydd, mae pethau’n dechrau mynd yn llawer haws!

“Rydym yn falch iawn gyda’i edrychiad ac yn falch ein bod wedi cytuno i’r gwaith gael ei wneud. Roedd modd i ni ddewis o restr o liwiau a dyluniadau i’w gael fel roeddem yn dymuno ac mae’n fodern iawn ac o ansawdd da. Dylai hwn bara am flynyddoedd rŵan!”

Rhagor o gartrefi wedi eu gwella diolch i’n prosiect moderneiddio
Mrs Julie Kenmuir yn ei chegin newydd yng nghynllun tai gwarchod St Michael

Mae cartrefi yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol

Dim ond un rhan o’r prosiect moderneiddio enfawr rydym yn ei gynnal yw gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau er mwyn sicrhau fod cartrefi tenantiaid yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru.

Rydym hefyd yn cynnal gwaith gwella arall fel gwaith ail-weirio trydanol, systemau gwres canolog newydd, insiwleiddio waliau allanol, gwaith ail-osod toeau a gwelliannau i erddi ac ardaloedd allanol fel llwybrau a ffensys.

Dywedodd Aelod Lleol Rhiwabon, y Cyng Dana Davies: “Rwy’n falch iawn fod y rhaglen o waith gwella wedi cyrraedd Rhiwabon bellach a bod tenantiaid wedi gallu elwa o waith moderneiddio ar eu cartrefi.

“Gall gwaith ar y raddfa hon gyflwyno sawl her ond mae hi mor bwysig fod cartrefi yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol a bydd yr adborth gan denantiaid fel y rhai hynny yn St Michael’s wedi bod yn gadarnhaol iawn felly mae hyn yn newyddion da iawn i dai cymdeithasol yn Wrecsam.”

Miloedd o dai eisoes wedi cael eu gwella

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Rydym wedi buddsoddi symiau mwy nac erioed o’r blaen ar wella cartrefi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys £56.4m yn 2017/18 yn unig.

Mae hyn wedi ein caniatáu i ddod a miloedd o eiddo i safon uwch nac o’r blaen ac mae’n rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono. Mae disgwyl i’r gwaith hwn barhau nes bod pob tenant yn gallu byw mewn cartrefi sy’n ddiogel, modern, cyfforddus a pharod ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r cyllid ar gyfer y gwaith i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr gwerth £7.5m, sy’n cael ei ddyfarnu i awdurdodau lleol, yn flynyddol, i’w helpu i gwblhau’r gwaith gwella sydd angen i gyrraedd y safon.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ewch i wefan y cyngor.

Os ydych chi’n credu y gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod elwa o fyw mewn tai gwarchod, edrychwch ar ein hadran ar lety ymddeol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bus station Gwaith Gwelliannau i’r Orsaf Bysiau
Erthygl nesaf Dual Carriageway Gwaith ffordd ar yr A5 o gylchfan Halton i gylchfan Gledrid

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English