Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw Symptomau Strep A a’r dwymyn goch
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw Symptomau Strep A a’r dwymyn goch
ArallBusnes ac addysg

Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw Symptomau Strep A a’r dwymyn goch

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 7, 2022 4:30 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
High temperature
RHANNU

Gwres uchel, dolur gwddf, brech, poenau cyhyrau difrifol, cochni o amgylch clwyf

Cynnwys
  • Arwyddion a symptomau o’r dwymyn goch
  • Cymhlethdodau’r dwymyn goch a haint streptooccal

Mae’n debyg eich bod wedi gweld yr adroddiadau ar y cyfryngau cenedlaethol yr wythnos hon ynglŷn ag Afiechyd Streptococol Grŵp A ymledol (IGAS) – a elwir hefyd yn ‘Strep A.’

Bu nifer o achosion difrifol yn y DU yn cynnwys plant ifanc, ac anogir rhieni ac ysgolion i edrych am symptomau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

  • Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o haint mewn plant sy’n mynd yn sâl â thymheredd, dolur gwddf neu frech.
  • Cynghorir rhieni plant sy’n sâl i gael cyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
  • Dylai unrhyw un sydd â’r dwymyn goch beidio â mynychu’r ysgol am 24 awr ar ôl i’r driniaeth wrthfiotig briodol ddechrau.
  • Gall hylendid dwylo da ac osgoi lledaenu diferion anadlol (fel gyda’r ffliw – “ei ddal, ei daflu, ei ddifa”) helpu i atal yr haint rhag lledaenu.

Arwyddion a symptomau o’r dwymyn goch

Weithiau gall Strep A achosi y dwymyn goch.

Mae’n hynod heintus a gellir ei ddal drwy gyswllt uniongyrchol â rhywun sydd wedi’i heintio neu drwy’r aer drwy ddefnynnau o besychiadau neu disian.

Prif symptom y dwymyn goch yw brech binc-goch fân sydd i’w theimlo fel papur llyfnu i’w chyffwrdd.

Mae symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb coch a thafod coch chwyddedig.

Mae’r driniaeth yn syml ac fel arfer yn golygu cwrs o wrthfiotigau penisilin.

Cymhlethdodau’r dwymyn goch a haint streptooccal

Ni fydd y rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch yn achosi cymhlethdodau, yn enwedig os caiff y cyflwr ei drin yn briodol.

Fodd bynnag, gall cymhlethdodau yng nghyfnod cynnar y clefyd achosi haint yn y glust, casgliad yn y gwddw, sinusitis, niwmonia a llid yr ymennydd.

Mae cymhlethdodau prin iawn yn cynnwys twymyn y gwynegon, niwed i’r arennau, haint yr esgyrn, gwenwyniad gwaed a syndrom sioc tocsig a allai beryglu bywyd.

Mae arwyddion cynnar o haint ymledol yn cynnwys:

  • Gwres uchel.
  • Poenau cyhyrau difrifol.
  • Tynerwch cyhyrau lleol.
  • Cochni ger clwyf.

Os oes gennych unrhyw bryderon am haint ymledol, yna rhaid ceisio cyngor meddygol ar frys.

Y cyngor i rieni yw:

  • Cysylltwch â’ch meddyg teulu, ewch i 111.wales.nhs.uk, neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau a roddir gan y meddyg.
  • Cadwch eich plentyn gartref, i ffwrdd o’r feithrinfa, ysgol neu waith a dilyn unrhyw ganllawiau a roddwyd gan eich meddyg teulu ar ba mor hir y dylent aros i ffwrdd o’r lleoliadau hyn.
  • Mae gwybodaeth a chyngor diweddaraf ar heintiau streptococcal A ar 111.wales.nhs.uk
Rhannu
Erthygl flaenorol Hyfforddiant AM DDIM i ddod yn athro/athrawes nofio – yna, hyd at £16 yr awr Hyfforddiant AM DDIM i ddod yn athro/athrawes nofio – yna, hyd at £16 yr awr
Erthygl nesaf Waste Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff tu allan i ganolfannau ailgylchu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English