Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > “Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”
Y cyngor

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2023 2:35 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mayor of Wrexham, Councillor Brian Cameron
RHANNU

Mae Maer Wrecsam yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd

Dydd Mawrth, Mai 23, fe fydd y Cynghorydd Brian Cameron yn trosglwyddo’r awenau fel Maer Wrecsam – gan ddod â blwyddyn gyffrous llawn digwyddiadau yn y swydd i ben.

Cynnwys
  • Mae Maer Wrecsam yn edrych yn ôl ar ei flwyddyn yn y swydd
  • Cefnogwr Wrecsam ar hyd ei oes
  • Cyfarfod pobl o bob oed a chefndir

Mae’r Cynghorydd Cameron wedi bod yn dyst i rai o’r digwyddiadau mwyaf mewn cof yn ystod ei gyfnod fel Maer – ar raddfa leol a chenedlaethol – gan gynnwys statws dinas, marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, ymweliad y Brenin Charles III a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn ennill dyrchafiad.

Dywedodd: “Roedd y rhain yn adegau enfawr ac mae wedi bod yn anrhydedd i wasanaethu fel maer yn ystod cyfnodau mor bwysig a llawn digwyddiadau.

“Roedd marwolaeth y Diweddar Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II yn amser trist, ac roedd y modd y daeth Wrecsam ynghyd i dangos parch yn hynod wefreiddiol.

“Roedd Proclamasiwn y Brenin Charles III – a’i ymweliad yn dilyn hynny i Wrecsam i ddathlu’r statws dinas – hefyd yn foment allweddol i mi ac mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth.”

Yn ogystal â’i wraig Kerry fel Maeres mae wedi mynychu nifer fawr o ymrwymiadau dinesig dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cynrychioli’r fwrdeistref sirol mewn nifer o ddigwyddiadau pwysig.

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”
T
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”
Royal Welsh
mayor at opening
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”
“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych”

Cefnogwr Wrecsam ar hyd ei oes

Mae’r Cynghorydd Cameron wedi bod yn gefnogwr Wrecsam ar hyd ei oes ac – fel miloedd o bobl eraill yn y DU (a Gogledd America!) – roedd wrth ei fodd pan enillodd timau’r dynion a’r merched ddyrchafiad y tymor hwn.

“Mae yna sawl moment wych wedi bod ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds ddod yn berchnogion ar y clwb, ond pan wnaethom ni gael dyrchafiad i Adran Dau a Chynghrair Adran Cymru roedd hynny yn hollol anhygoel.

“Mae llwyddiant ar y cae wedi golygu cymaint i’n cymunedau, ac roeddwn yn teimlo’n falch iawn o’n pêl-droedwyr fel cefnogwr ac fel Maer Wrecsam.”

Cyfarfod pobl o bob oed a chefndir

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines Elizabeth, mynychu’r Arddwest Frenhinol a chefnogi cynnig Dinas Diwylliant Wrecsam…

…yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau fel Diwrnod y Lluoedd Arfog a’r gorymdeithiau gan y Cymry Brenhinol a Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines.

Ond yn ogystal â’r achlysuron mawr a oedd yn cipio’r penawdau, roedd yna nifer o ddigwyddiadau ac ymrwymiadau llai a greodd argraff.

Dywedodd y Cynghorydd Cameron: “Roedd y Faeres a minnau wrth ein bodd yn cyfarfod cynifer o bobl o bob grŵp oedran a chefndir, gan ddysgu am eu gwaith, eu doniau a’u diddordebau.

“Fe hoffwn i ddweud diolch wrth yr holl elusennau lleol, grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau ac unigolion eraill a wahoddodd fi a Kerry i rannu eu llwyddiannau.

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gyfarfod cynifer o bobl wych, ac alla i ddim mynegi profiad mor anhygoel fu gwasanaethu fel Maer Wrecsam.

“Diolch i bawb am eich cefnogaeth, a hoffwn ddymuno’n dda i fy olynydd y Cynghorydd Andy Williams a’i wraig Beverly ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod – rwy’n gwybod y byddant yn gwneud gwaith gwych.”

Bydd y Cynghorydd Andy Williams yn ymgymryd â rôl Maer Wrecsam yn swyddogol yng nghyfarfod swyddogol y cyngor i urddo’r Maer ddydd Mawrth Mai 23.

Rhannu
Erthygl flaenorol Safe Places Lleoedd Diogel yn cyflwyno Diwrnod Hwyl Cymunedol 18 Awst Sgwâr y Frenhines
Erthygl nesaf fost Cymru ar frig y DU o ran cymorth hanfodol i helpu plant mabwysiedig i ddeall hanesion eu bywydau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English