Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Cynllunio ar gyfer cyllideb 2026/27 ein cyngor
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth
Pobl a lleY cyngor

Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/25 at 5:22 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Foster Wales
RHANNU

Bob 15 munud ar draws y DU bydd plentyn arall yn dod i mewn i ofal sy’n golygu bod angen teulu maeth arnynt. Bob dydd, mae tua 70,000 o blant yn byw gyda 56,000 o deuluoedd maeth.

Wrth i deuluoedd ar draws y wlad geisio delio â’r argyfwng costau byw parhaus, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i gefnogi maethu, gyda’r gobaith o fynd i’r afael â’r gamdybiaeth na allwch barhau i weithio os byddwch chi’n dod yn ofalwr maeth.

Yn ystod Pythefnos Gofalwyr Maeth eleni (15-28 Mai), mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i gynnig cefnogaeth a’i gwneud yn haws i’w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, elusen faethu arweiniol y DU, mae bron 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu gyda gwaith arall, ac mae eu polisi ‘cefnogi maethu’ yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd o’r gwaith i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd trwy’r broses ymgeisio.

Mae’r cynllun yn cefnogi gweithwyr sy’n ofalwyr maeth eisoes hefyd, i ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer mynychu hyfforddiant, mynychu paneli, helpu plentyn newydd i ymgartrefu gyda nhw ac ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi.

Gallai cefnogaeth cyflogwr wneud gwahaniaeth hanfodol i benderfyniad gweithiwr i fod yn ofalwr maeth.

Mae Alison o Wrecsam yn dangos nad yw gweithio’n llawn amser yn rhwystr i ddod yn ofalwr maeth.  Yn 2020, gwireddodd Alison ei breuddwyd o ddod yn ofalwr maeth wrth barhau i weithio’n llawn amser i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Dywedodd: “Roeddwn i wedi bod eisiau maethu erioed, ond doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n addas oherwydd roeddwn i’n dal i weithio’n llawn amser, yn sengl a dros 50 oed! Ond mae’r tîm yn Maethu Cymru Wrecsam wedi bod mor anogol o’r dechrau. Mae’n hyblyg iawn.

“Gan fy mod i’n gweithio i Gyngor Wrecsam, rwy’n cael gwyliau blynyddol ychwanegol ar gyfer maethu gyda fy awdurdod lleol, yr wyf yn ei ddefnyddio i fynychu cyfarfodydd, hyfforddiant ac adolygiadau. Gyda chefnogaeth gan fy nheulu fy hun, fy ngweithwyr cymdeithasol a’r tîm yn Maethu Cymru Wrecsam, gyda’n gilydd, rydym wedi sicrhau bod maethu yn gweithio i mi.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant: “Mae’r cynllun cyflogwyr sy’n Cefnogi Maethu yn bwysig iawn ac mae’n cynnig cyfle i fusnesau o unrhyw faint wneud gwahaniaeth i ofalwyr maeth a’r plant maen nhw’n gofalu amdanynt yn eu cymunedau lleol. Mae’n gwella cefnogaeth i’w gweithwyr eu hunain ar yr un pryd hefyd.

“Gyda chynifer o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu gyda gwaith arall, mae’n bwysig iddynt wybod bod ganddynt gyflogwr cefnogol i’w galluogi i gydbwyso cyflogaeth gyda gofalu am blant sy’n derbyn gofal. Rwy’n annog cyflogwyr yn y fwrdeistref sirol i edrych ar ffyrdd o gefnogi maethu i helpu eu gweithwyr i wneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n derbyn gofal yn Wrecsam.”

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru helpu.

“Rydym yn gwybod ein bod yn gweld canlyniadau gwell wrth i blant aros mewn cyswllt, aros yn lleol a bod â rhywun sy’n aros gyda nhw yn yr hirdymor.

“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i fod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i aros yn eu cynefin ac yn y pen draw, eu cefnogi i gael dyfodol gwell.”

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn ofalwr maeth yn Wrecsam ewch i: https://wrecsam.maethucymru.llyw.cymru/

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu yng Nghymru, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/gweithio-a-maethu/

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/Pothole_report”] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Amgueddfa Bêl-droed Cymru i adrodd hanes clybiau Cymru mewn cyfresi ffilm newydd
Erthygl nesaf Y Protocol Herbert Wythnos Gweithredu dros Ddementia: Protocol Herbert

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam
Arall Datgarboneiddio Wrecsam Rhagfyr 4, 2025
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Wrecsam yw’r Enw
Pobl a lle Rhagfyr 3, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos

Rhagfyr 5, 2025
Green garden waste bin
Y cyngor

Diweddariad – Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf

Rhagfyr 5, 2025
Coedwig Fechan newydd ei sefydlu, gyda ffens o’i hamgylch ym Mharc Borras
ArallDatgarboneiddio Wrecsam

Pedair Coedwig Fechan Newydd — Yn dod â Mwy o Fyd Natur, Bywyd Gwyllt a Mannau Cymunedol i Sir Wrecsam

Rhagfyr 4, 2025
Wrexham AFC exhibition at Ty Pawb
Pobl a lle

Wrecsam yw’r Enw

Rhagfyr 3, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English