Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynghorwyr yn ystyried pecyn newydd i ariannu rhannau allweddol o brosiect Porth Wrecsam, gan gynnwys Kop newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cynghorwyr yn ystyried pecyn newydd i ariannu rhannau allweddol o brosiect Porth Wrecsam, gan gynnwys Kop newydd
ArallPobl a lle

Cynghorwyr yn ystyried pecyn newydd i ariannu rhannau allweddol o brosiect Porth Wrecsam, gan gynnwys Kop newydd

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 12:13 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Football pitch
RHANNU

Ffordd newydd i ariannu rhan allweddol o brosiect Porth Wrecsam – sy’n cynnwys adeiladu stand kop newydd ar dir pêl-droed y Cae Ras – yn cael ei gynnig i Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn ddarostyngedig i gwblhau cytundebau cyfreithiol a masnachol.

Cynnwys
  • Beth yw prosiect Porth Wrecsam?
  • Sut fydd Wrecsam yn manteisio?
  • Sut fydd y pecyn cyllid newydd yn gweithio?
  • A fydd y cynigion newydd yn cael eu mabwysiadu?

Mae Cyngor Wrecsam, CPD Wrecsam a phartneriaid eraill wedi bod yn gweithio ar gynlluniau cyllid amgen ar ôl i gynnig am arian Ffyniant Bro fod yn aflwyddiannus yn gynharach eleni.

Bydd y cynigion newydd yn helpu i sicrhau cyllid o amrywiol o ffynonellau gwahanol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat – oddeutu 50% o bob un – a pharatoi’r ffordd ar gyfer ceisiadau am arian i gefnogi’r cynllun yn y dyfodol.

Beth yw prosiect Porth Wrecsam?

Mae Porth Wrecsam yn anelu i adfywio safleoedd allweddol ac isadeiledd trafnidiaeth o amgylch Ffordd Yr Wyddgrug – coridor allweddol i mewn i’r ddinas.

Mae’n cynnwys gwelliannau i gysylltedd teithio rheilffordd, bws a cheir, gwesty a chyfleusterau cynhadledd newydd, gofod swyddfa a gwelliannau i stadiwm y Cae Ras fydd yn caniatau i bêl-droed rhyngwladol ddychwelyd i Ogledd Cymru.

Mae’r prosiect wedi’i rannu yn ddau faes allweddol – yr ‘ochr ddwyreiniol’ a’r ‘ochr orllewinol’.

Bydd y cynigion cyllid newydd yn helpu i ariannu’r ochr orllewinol, gan gynnwys y Cae Ras a kop newydd er mwyn i bêl-droed rhyngwladol ddychwelyd i’r stadiwm a darparu digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol. Ar yr ochr ddwyreiniol, mae’r bartneriaeth yn datblygu gyda dyluniad manwl ac ymgynghori ar gyfer gweithredu’r uwchgynllun cyffredinol.

Sut fydd Wrecsam yn manteisio?

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae Porth Wrecsam yn brosiect enfawr fydd yn trawsnewid un o’r prif goridorau i mewn i’r ddinas.

“Mae’n uchelgeisiol, ond rydym angen bod yn uchelgeisiol os ydym am gyflawni ein potensial fel dinas fwyaf newydd Cymru, a chartref pêl-droed Cymru.

“Elfen allweddol yw datblygu’r kop newydd. Mae’r pethau anhygoel sy’n digwydd yn y clwb yn rhoi Wrecsam ar lwyfan byd-eang, ac mae pêl-droed yn dod â chymunedau gyda’i gilydd, gan roi hwb i falchder lleol a helpu i ddenu ymwelwyr a buddsoddiad.

“Felly, yn helpu i sicrhau cyllid i ddatblygu’r Cae Ras – fel y gall unwaith eto gynnig llety i chwaraeon rhaglen ryngwladol – yn hynod bwysig i Wrecsam a bydd y manteision yn cael ei deimlo ymhell y tu hwnt i’r cae pêl-droed.”

Sut fydd y pecyn cyllid newydd yn gweithio?

Mae’r cynigion newydd yn anelu i sicrhau cydbwysedd o amrywiaeth o ffynonellau cyllid.

Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd swm sylweddol o’r £25 miliwn o grant a roddir i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru yn cael ei adleoli o’r ochr ddwyreiniol i’r ochr orllewinol.

Bydd y Cyngor yn ei dro yn ymgeisio am arian allanol ac yn gwarantu isafswm o £8miliwn ar gael ar gyfer cynllun yr ochr ddwyreiniol.

Darparu Porth Wrecsam – ochr y gorllewin a’r dwyrain – yn hanfodol i Wrecsam. Amcangyfrifir y bydd y cynllun cyffredinol yn creu 732 o swyddi newydd ac effaith ychwanegu gwerth gros o £54.1miliwn a’r canlyniad yn £3 o fudd cyhoeddus am bob £1 a fuddsoddir.

Amcangyfrifir y bydd cynllun ochr y gorllewin yn cynyddu’r nifer o ymwelwyr i Wrecsam gan 60,000 y flwyddyn a chynyddu gwariant yn yr ardal leol £3miliwn.

A fydd y cynigion newydd yn cael eu mabwysiadu?

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol y cyngor ddydd Mawrth, 18 Ebrill ble gofynnir i aelodau gymeradwyo’r camau.

Mae’r cam hwn yn cael ei gefnogi’n llawn gan bartneriaid Porth Wrecsam gan gynnwys Llywodraeth Cymru, CPD Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Atrium in Wrexham Atrium yn dathlu 25 mlynedd o wneud gweithleoedd yn fwy diogel
Erthygl nesaf Criw Celf Criw Celf – Prosiect Celf ar gyfer pobl ifanc 9-14 oed

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English