Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dros £1.8 miliwn yn cael ei ddyfarnu i wefru ceir trydan yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dros £1.8 miliwn yn cael ei ddyfarnu i wefru ceir trydan yn Wrecsam
Y cyngorBusnes ac addysg

Dros £1.8 miliwn yn cael ei ddyfarnu i wefru ceir trydan yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 23, 2023 11:25 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Electric vehicle charging
RHANNU

Rydym wedi llwyddo i gael £1.86 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd i gyflwyno cyfleusterau gwefru cerbydau trydan yn Wrecsam.

Cynnwys
  • “Cam pwysig ymlaen at gludiant carbon is yn Wrecsam”
  • “Ymroddedig i greu isadeiledd cerbydau trydan o safon uchel ledled Cymru”
  • Cyfleoedd cyllid ar gyfer busnesau ac eraill
    • Landlordiaid preifat
    • Pobl sy’n berchen ar fflat neu sy’n rhentu fflat
    • Gweithleoedd (mentrau cymdeithasol a busnesau)
    • Tacsis

Daw’r cyllid hwn fel rhan o fuddsoddiad gwerth £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.

Mae’r cynigion ar gyfer Wrecsam yn cynnwys creu canolbwyntiau symudedd yng nghanol y ddinas, yn ogystal â gosod gwefrwyr o gynwyseddau amrywiol mewn gwahanol safleoedd, gan gynnwys rhai o’n lleoliadau mwy gwledig yn y sir.

Bwriedir sefydlu’r canolbwynt newydd cyntaf yng nghanol y ddinas ym maes parcio Stryt y Farchnad. Bwriedir hefyd gosod dros 20 o unedau cynhwysedd llai mewn amryw o feysydd parcio llai ym mhob rhan o’r sir.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

“Cam pwysig ymlaen at gludiant carbon is yn Wrecsam”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Rydym yn falch o dderbyn y cyllid hwn a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwaith i helpu pobl i newid i ddefnyddio Cerbydau Trydan trwy greu canolbwyntiau symudedd o amgylch ardaloedd lle mae’r galw yn debygol o fod yn uwch a lle gallwn ddarparu gwefrwyr cynhwysedd uwch, yn ogystal â chefnogi rhai o’n cymunedau llai a mwy gwledig trwy ddarparu gwefrwyr cynhwysedd is.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Dylai’r gwefrwyr cynhwysedd is a fydd ar gael i’r cyhoedd helpu pobl sydd o bosibl yn methu â chael mynediad at leoedd parcio oddi ar y stryd lle gallent osod gwefrwr cerbyd trydan. Fel rhan o’r prosiect hwn rydym hefyd yn ystyried ychwanegu mwy o ddarpariaethau ar raddfa lai i gefnogi teithio llesol a byd natur. Rydym yn awyddus i ddechrau ar y cam pwysig hwn ymlaen at gludiant carbon isel yn Wrecsam.”

“Ymroddedig i greu isadeiledd cerbydau trydan o safon uchel ledled Cymru”

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb dros gludiant: “Mae angen i yrwyr gael yr hyder i newid i ddefnyddio cerbydau trydan wrth i’r galw gynyddu a dyna pam yr ydym yn ymroddedig i greu isadeiledd cerbydau trydan o safon uchel ledled Cymru.

“Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn cael ei ddarparu gan y sector preifat ond ein rôl ni yw hwyluso buddsoddiadau sector preifat ledled Cymru a sicrhau mynediad cyfartal.

“I’n help â hyn, rydym wedi creu tasglu sector preifat a fydd yn ymgysylltu â’r farchnad, goresgyn unrhyw rwystrau i fuddsoddi a chyflwyno’r isadeiledd gwefru yn gynt.

“Mae’r cyllid sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn gam arall yn y cyfeiriad cywir ond mae angen i ni fynd ymhellach – byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a’r sector preifat er mwyn sicrhau bod Cymru yn medru cynnal y cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan.”

Cyfleoedd cyllid ar gyfer busnesau ac eraill

Mae’r llywodraeth yn darparu cyllid i gefnogi pobl i newid i ddefnyddio cerbydau trydan. Ydych chi’n gymwys am unrhyw un o’r grantiau hyn?

Landlordiaid preifat

Ydych chi’n landlord preifat? Os ydych, mae dau grant y gallwch wneud cais amdanynt i’ch helpu i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn eiddo yr ydych yn berchen arno (Grant pwyntiau gwefru cerbydau trydan a grant isadeiledd cerbydau trydan)

Pobl sy’n berchen ar fflat neu sy’n rhentu fflat

Mae’r grant pwynt gwefru cerbydau trydan ar gael i bobl sy’n berchen ar fflat neu sy’n rhentu fflat. Gallwch wneud cais am y grant hwn os:
• ydych yn berchen ar fflat ac yn byw ynddo, neu os ydych yn rhentu unrhyw eiddo preswyl
• oes gan eich cartref le parcio preifat oddi ar y stryd
• ydych chi’n berchen ar gerbyd cymwys

Gweithleoedd (mentrau cymdeithasol a busnesau)

Mae’r Cynllun Gwefru yn y Gweithle yn rhoi cefnogaeth i ymgeiswyr cymwys tuag at gostau ymlaen llaw prynu a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Tacsis

Gallai cerbydau allyriadau isel fod yn gymwys am grant ceir trydan. Gellir cael gostyngiad o 20% wrth werthu rhai tacsis os yw’r gwerthwr yn cynnwys y gostyngiad yn y pris prynu. Y gostyngiad uchaf yw £7,500.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Solar PV Y wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd wrth i ni anelu at gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2030.
Erthygl nesaf Digwyddiad Rhwydweithio Wythnos Lles y Byd – cysylltu, cydweithio a thyfu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English