Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trawsnewid : Transform – gŵyl archwilio clyweledol unigryw i Gymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Trawsnewid : Transform – gŵyl archwilio clyweledol unigryw i Gymru
Pobl a lleArall

Trawsnewid : Transform – gŵyl archwilio clyweledol unigryw i Gymru

Diweddarwyd diwethaf: Awst 18, 2023 1:42 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Transnewid
RHANNU

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a FOCUS Wales yn cyhoeddi rhifyn cyntaf gŵyl archwilio clyweledol unigryw – Trawsnewid : Transform – a gynhelir yn Aberystwyth, ar arfordir gorllewinol Cymru, ar 2 a 3 Chwefror 2024.

Bellach 50 mlynedd ers ei sefydlu, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y lleoliad a fydd yn gartref i Trawsnewid : Transform, yn adeilad eiconig, yn edrych dros y dref brifysgol glan y môr Fictoraidd hardd. Mae pensaernïaeth yr adeilad a’i amgylchoedd unigryw yn rhoiei hun yn naturiol i’r digwyddiad, a fydd yn cyfuno’r gorau mewn cerddoriaeth newydd, gyda delweddau, ac iaith.  

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a FOCUS Wales wedi gwahodd detholiad o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru i berfformio yn y rhifyn cyntaf hwn o’r ŵyl, i greu profiadau clyweledol unigryw, a fydd yn arddangos y lleoliad, y rhanbarth, ac wrth gwrs yr artistiaid, mewn lleoliad arbennig.  Mae tîm yr ŵyl yn gweithio gydag artistiaid a hyrwyddwyr lleol ar draws y rhanbarth, gan greu cyfle newydd i bobl greadigol ddatblygu eu gwaith trwy gydweithio â’r ganolfan gelfyddydau a FOCUS Wales ar y digwyddiad arbennig hwn.

Yn arwain yr ŵyl mae Gwenno, a enwebwyd am Wobr Mercury, ac un o gerddorion amlycaf Cymru, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys.  Yn ogystal, mae’r rhaglen yn amlygu’r ystod eang o gerddoriaeth o safon uchel sy’n dod allan o Gymru ar draws sawl genre, a bydd yn cynnwys Adwaith, Gallops, Cerys Hafana, Sage Todz, HMS Morris, Skunkadelic, Eadyth, Ynys, The Family Battenberg, Worldcub, a llawer mwy.

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Louise Amery “Rydym yn falch iawn o weithio gyda’n ffrindiau yn FOCUS Wales i gyflwyno gŵyl Trawsnewid gyntaf un mis Chwefror 2024.  Rydym yn edrych ymlaen at wledd go iawn i’r llygaid a’r clyw dros y penwythnos wrth i griw anhygoel o gerddorion ac artistiaid o bob rhan o Gymru ymgynnull yn Aberystwyth i ‘feddiannu’ Canolfan y Celfyddydau.  Mae’n mynd i fod yn wych!”

Bydd tocynnau’r ŵyl ar gyfer Trawsnewid : Transform ar gael i’w prynu o ddydd Mercher 16eg Awst drwy www.aberystwythartscentre.co.uk

Trawsnewid
Rhannu
Erthygl flaenorol Thought bubbles Gofalwyr di-dâl, rhowch eich barn!
Erthygl nesaf The Guildhall, Wrexham “Mae pob adran yn cyfrannu at ddod o hyd i’r arbedion hyn”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English