Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut fydd Wrecsam yn teimlo effaith y gweithredu diwydiannol ar 4 Medi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut fydd Wrecsam yn teimlo effaith y gweithredu diwydiannol ar 4 Medi?
Y cyngor

Sut fydd Wrecsam yn teimlo effaith y gweithredu diwydiannol ar 4 Medi?

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/01 at 1:59 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Gwybodaeth
RHANNU

Mae gweithredu diwydiannol wedi cael ei alw gan Unite ac rydym ni’n disgwyl amhariad i rai o’n gwasanaethau am bythefnos o 4 Medi ymlaen.

Cynnwys
Gwasanaethau yn debygol o gael eu heffeithioCasgliadau gwastraff ac ailgylchuAtgyweirio taiGlanhau strydoeddCynnal a chadw priffyrdd a thiroeddGwasanaethau yn annhebygol o gael eu heffeithio

Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yr effaith yn llawn eto, daw hynny ond i’r amlwg ar ddiwrnodau’r gweithredu.

Serch hynny, dyma’r gwasanaethau allweddol rydym ni’n credu allai gael eu heffeithio…

Gwasanaethau yn debygol o gael eu heffeithio

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Mae hi’n bosibl y bydd casgliadau bin yn cael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol a fydd yn cael ei gynnal rhwng 4 Medi a 17 Medi, ond dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn eto.

O ganlyniad, rydym ni’n gofyn i bobl roi eu biniau allan fel yr arfer ar eu diwrnodau casglu arferol, ond byddwch yn amyneddgar os na fydd rhai biniau’n cael eu gwagio.

Os nad yw’r casgliad wedi digwydd erbyn 3.30pm, ewch i gasglu eich biniau ac ailgylchu o’u man casglu os gwelwch yn dda. Ni fydd modd i ni gasglu biniau sydd wedi cael eu methu.

Fe wnawn ni ein gorau i ymateb a rheoli’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.

Fe fyddwn ni hefyd yn gwneud ein gorau i roi’r newyddion diweddaraf i chi drwy ein e-byst am hysbysiadau bin. Gallwch gofrestru ar gyfer yr hysbysiadau yma drwy wefan y Cyngor.

Fe fydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, i ble y caiff deunyddiau sydd wedi’u didoli ymlaen llaw eu cymryd, ar agor fel arfer. Gwiriwch yr oriau agor.

Atgyweirio tai

Efallai y bydd rhai o’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu i denantiaid tai yn cael eu heffeithio – er enghraifft, ein gwasanaethau atgyweiriadau tai.

Eto, nid ydym yn gwybod beth fydd effaith hyn yn llawn eto, ond os oes angen i chi adrodd gwaith atgyweirio, byddwch yn amyneddgar, gan y gallai gymryd yn hirach nag arfer i ni ymateb.

Fe wnawn ein gorau i flaenoriaethu argyfyngau, ac fe wnawn ein gorau i ymateb i argyfyngau yn brydlon.

Glanhau strydoedd

Bydd rhai o’n hamserlenni glanhau strydoedd yn cael eu heffeithio.

Cynnal a chadw priffyrdd a thiroedd

Fe allai gwaith atgyweirio ffyrdd a chynnal a chadw tiroedd gael eu heffeithio. Fe fyddwn ni’n ceisio blaenoriaethu swyddi lle bo hynny’n bosibl.

Gwasanaethau yn annhebygol o gael eu heffeithio

Ar hyn o bryd, rydym ni’n credu na fydd mwyafrif ein gwasanaethau eraill yn cael eu heffeithio. Mae hyn yn cynnwys…

  • Ysgolion – ar agor fel arfer (mae Unite wedi dweud na fydd y gweithredu diwydiannol yn targedu ysgolion)
  • Llyfrgelloedd – ar agor fel arfer
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid / Galw Wrecsam – ar agor fel arfer
  • Adeiladau’r Cyngor, yn cynnwys Tŷ Pawb ac Amgueddfa Wrecsam – ar agor fel arfer
  • Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – ar agor fel arfer
  • Gwasanaethau Cofrestru – ar agor fel arfer
  • Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol – yn gweithredu fel arfer
  • Gwasanaethau Cynllunio – yn gweithredu fel arfer
  • Iechyd yr Amgylchedd – yn gweithredu fel arfer
  • Amlosgfa a Mynwentydd – yn rhagweld amhariad bach iawn ar hyn o bryd.

Bydd digwyddiad The Tour of Britain yn cael ei gynnal fel y bwriad gwreiddiol ar 4 Medi.

Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Wrecsam: “Fe ddaw’r gweithredu diwydiannol gan aelodau Unite yn sgil trafodaethau cyflog cenedlaethol NJC ac nid yw’n unigryw i Wrecsam.

“Rydym wedi bod yn ceisio asesu’r effaith posibl ac fe wnawn ni bob ymdrech i geisio lleihau amhariad i bobl leol.

“Serch hynny, mewn nifer o achosion ni fyddwn ni’n gwybod y gwir effaith tan ddiwrnod y gweithredu.

“Fe wnawn ni’n reoli’r sefyllfa a’n nod fydd gadael i gwsmeriaid wybod am unrhyw newidiadau i wasanaethau.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd
Erthygl nesaf Gwybodaeth Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu diwydiannol – dydd Llun 4 Medi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English