Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trawsnewid bywydau: o lety â chefnogaeth i fyw’n annibynnol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg
Home-Start Baby Bank project
Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Trawsnewid bywydau: o lety â chefnogaeth i fyw’n annibynnol
Y cyngorPobl a lle

Trawsnewid bywydau: o lety â chefnogaeth i fyw’n annibynnol

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/11 at 3:43 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Teigan
RHANNU

Pan symudodd Teigan i lety â chefnogaeth yn 18 oed, nid oedd yn ymwybodol o’r effaith y byddai’n ei gael ar ei bywyd. Darllenwch ymlaen i weld pa wersi y bu iddi eu dysgu ar hyd y ffordd a’r cysylltiad oesol sydd rhyngddi hi a’i gwesteiwr llety â chefnogaeth, Cath.

Mae llety â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-21 oed, sy’n gadael gofal ac mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae ar gael i baratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol a’u cefnogi gyda chyflawni eu nodau.

Wrth adael gofal, cafodd Teigan annibyniaeth newydd, ond roedd yn cael trafferth rheoli ei harian. Bu i Cath, ei gwesteiwr llety â chefnogaeth, gamu i’r adwy i’w rhoi ar ben ffordd.  Dysgodd Teigan i flaenoriaethu biliau, gan sicrhau eu bod yn cael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol yn syth ar ôl iddi dderbyn ei hincwm. Bu i’r sefydlogrwydd ariannol hwn newid popeth, oherwydd ei hamser gyda Cath.

Yn ogystal ag arweiniad ariannol, cynigiodd Cath gefnogaeth emosiynol iddi. Roedd hi ar gael bob amser ar ddiwrnodau heriol, am baned o de a sgwrs. 

Heb ei chefnogaeth, cred Teigan na fyddai o bosibl wedi gallu cwblhau ei chyfnod yn y coleg yn llwyddiannus, gan fod cefnogaeth gadarn Cath wedi’i hysgogi i fynd i mewn ar ddiwrnodau pan nad oedd ganddi lawer o gymhelliant. Hefyd, heb ei chyngor ariannol, gallai fod yn ddigartref.

Felly… pa wersi y bu i Teigan eu dysgu yn ystod ei chyfnod mewn llety â chefnogaeth?  

  • Cyfrifoldeb ariannol: dysgodd Teigan bwysigrwydd rhoi blaenoriaeth i filiau cyn prynu eitemau roedd eu heisiau, ond nad oedd eu hangen arni.
  • Annibyniaeth: daeth byw ar ei phen ei hun yn llai arswydus, diolch i’w hamser yn y llety â chefnogaeth
  • Cynllunio a choginio prydau: bu iddi feithrin sgiliau coginio, meistroli’r grefft o goginio a pharatoi prydau i sicrhau bod y rhewgell yn llawn
  • Trefn: daeth sefydlu trefn yn rhywbeth cadarnhaol yn ei bywyd, gan ei helpu i fod yn drefnus
  • Sgiliau cartref: bu i Teigan feithrin dealltwriaeth ymarferol, gan gynnwys sut i gadw lle byw yn lân a thaclus
  • Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl: bu i lety â chefnogaeth ddysgu pwysigrwydd ymestyn allan pan fyddai’n cael trafferth â’i hemosiynau

Meddai Teigan: “Pe na bawn wedi cael lleoliad llety â chefnogaeth gyda Cath, ni fyddwn ble rwyf rŵan.” Dw i’n dal i siarad hefo Cath ar y ffôn ac mae’n braf gwybod, er nad ydw i’n byw hefo hi erbyn hyn, y gallaf bob amser alw heibio am baned, sgwrs a rhywfaint o gyngor. Ond, mi ydw i’n methu Cath, mae’n teimlo’n rhyfedd iawn hebddi weithiau, ond gallaf fyw ar fy mhen fy hun bellach a dw i’n gwybod y gallaf ei ffonio os bydd angen.”

Wrth siarad am ei chyfnod gyda Teigan, dywedodd Cath: “Mae’n wych gweld cystal hwyl mae Teigan yn ei gael. Roedd hi’n siwrne rwystredig ar brydiau, ond yn sicr mae wedi bod yn werth chweil o ystyried cystal mae hi’n llwyddo i fyw’n annibynnol nawr.”

Mae stori Teigan yn brawf o bŵer trawsnewidiol llety â chefnogaeth. Nid yn unig ei fod wedi cynnig lle diogel iddi yn ystod cyfnod pwysig yn ei bywyd, bu iddo hefyd roi’r sgiliau a’r gwytnwch roedd eu hangen i fyw’n annibynnol. Mae’r cysylltiad gyda’i gwesteiwr, Cath, yn dangos yr effaith gadarnhaol barhaus y gall lleoliadau o’r fath eu cael. 

Mae siwrnai Teigan yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy’n wynebu newidiadau tebyg, gan ddangos y potensial ar gyfer twf, annibyniaeth a llwyddiant.

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol Occupational therapy 10 munud yn sbâr? Helpwch ni i ddatblygu canolbwyntiau gofal cymdeithasol yn Wrecsam
Erthygl nesaf Wrexham Dementia Community Listening Campaign Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – dweud eich dweud!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruthin Road
Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio
Pobl a lle Awst 21, 2025
J
Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor Awst 20, 2025
funding
Dyrchafu eich busnes yn Wrecsam – ymunwch â’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar 19 Medi
Busnes ac addysg Awst 19, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
J
Busnes ac addysgY cyngor

Canlyniadau TGAU 2025 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 21, 2025
Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol
Y cyngor

Casgliadau Gŵyl y Banc a’r diweddaraf am weithredu diwydiannol

Awst 20, 2025
Home-Start Baby Bank project
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Prosiect banc offer babanod yn cefnogi dros 80 o deuluoedd lleol

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English