Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan
Pobl a lle

Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 1, 2023 1:38 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Storm Babet: gwaith i drwsio ffordd wedi’i difrodi ym Mhentrebychan i ddechrau’n fuan
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â thirlithriad ar Smithy Lane ym Mhentrebychan, ger Rhosllanberchgrugog.

Cafodd darn o’r ffordd ei difrodi gan law trwm yn ystod Storm Babet ym mis Hydref. Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n gyflym i greu dyluniad i’w thrwsio a phenodi contractwr ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar 4 Rhagfyr (2023).

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd:  “Mae hon yn ffordd bwysig i’r gymuned leol, felly rydym ni wedi gweithio’n galed iawn i greu dyluniadau a phenodi contractwr da mewn cyfnod byr iawn.

“Rydyn ni wedi penodi contractwr addas i wneud y gwaith, sy’n brofiadol wrth wneud y math hwn o waith.

“Mae tywydd garw’n dod yn fwyfwy cyffredin ym Mhrydain ac mae gennym ni weithdrefnau i’n helpu i ymateb yn gyflym yn ystod storm. Er hynny, mae hi’r un mor bwysig ein bod yn helpu cymunedau i gael eu cefn atynt wedyn.

“Mae’r terfynau amser i wneud y gwaith yn golygu y dylai’r ffordd fod ar agor cyn i waith dawelu dros y Nadolig, ond rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu penodi contractwyr i drwsio Smithy Lane mewn cyfnod mor fyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Fred Roberts, sy’n cynrychioli’r ward leol, Rhos: “Fe wnaeth y storm ein taro ni’n galed ac roedd y difrod i’r ffordd yn dipyn o ergyd, ond rydw i’n falch ein bod wedi gallu gweithredu mor gyflym.

“Mae’r Cyngor yn ariannu’r gwaith drwy addasu’r rhaglen o waith mae wedi’i chynllunio, gan ei fod yn deall bod trwsio’r ffordd yn flaenoriaeth i’r gymuned.

“Mae hyn yn newyddion da ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cychwyn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Pemberton, sy’n cynrychioli ward Ponciau ger llaw: “Mae llawer o drigolion pryderus sydd wedi’u heffeithio yn fy ward i – sy’n taro ar ward Rhos – wedi holi am y ffordd.

“Mae’r Cynghorydd Roberts a minnau wedi bod yn trafod gyda swyddogion ers y dechrau ac wedi ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n trigolion. Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith am fynd ati mor gyflym ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ffordd ar agor eto.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Food Hygiene Cyngor Wrecsam yn dathlu 10 mlynedd ers i Sgoriau Hylendid Bwyd ddod yn gyfreithiol orfodol yng Nghymru
Erthygl nesaf Cau Siop Fêp yng Nghanol Dinas Wrecsam am 3 mis Cau Siop Fêp yng Nghanol Dinas Wrecsam am 3 mis

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English