Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Y cyngorPobl a lle

Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2023 4:50 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
20mph
RHANNU

Daeth terfyn cyflymder diofyn 20mya Llywodraeth Cymru i rym ar draws Cymru ym mis Medi eleni ac roedd gosod yr holl arwyddion cyflymder ledled y fwrdeistref sirol yn golygu llawer o waith. 

Yn anffodus, mae llawer o’r arwyddion wedi’u fandaleiddio, neu hyd yn oed eu dwyn.  Mae rhai o’r arwyddion hyn yn cynnwys yr arwyddion cyflymder 20mya wrth ymyl ysgolion, sy’n fater diogelwch difrifol.

Meddai’r Uwch-arolygydd Ardal y Dwyrain, Jon Bowcott:  “Mae difwyno a difrodi arwyddion ffordd yn weithred droseddol a gall rhoi defnyddwyr y ffordd mewn perygl.

“Mae’r rhai sy’n gyfrifol am y fandaliaeth ddisynnwyr hon yn peryglu eu hunain – gan fod yr arwyddion sy’n cael eu targedu yn aml wedi’u lleoli mewn lleoliadau gwledig gydag ychydig iawn o oleuadau stryd neu ddim o gwbl.

“Mae arwyddion ffordd yn elfen hanfodol o isadeiledd cludiant sy’n darparu gwybodaeth bwysig i holl ddefnyddwyr y ffordd, ac mae’r fandaliaeth barhaus mewn rhai ardaloedd yn ychwanegu dryswch ymysg modurwyr.

“Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un y delir yn difwyno ac yn difrodi arwyddion ffordd yn fwriadol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd:  “Mae wedi bod yn siomedig gweld yr arwyddion ffordd hyn yn cael eu difrodi, ac rydym yn cymryd y mater o ddifrif.  Mae fandaleiddio neu symud yr arwyddion yn creu mater diogelwch i breswylwyr a gall y canlyniadau i’r rhai sy’n gwneud y difrod hefyd fod yn ddifrifol iawn; mae ymyrryd ag arwyddion traffig yn drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a gall unigolyn fod yn atebol am unrhyw ddamweiniau a achoswyd gan eu camau troseddol.”

Dylai unrhyw un sydd eisiau rhoi gwybod am arwydd sydd wedi’i difwyno/ar goll, anfon e-bost at Gyngor Wrecsam gan nodi lleoliad yr arwydd i traffic@wrexham.gov.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Victorian Market Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir
Erthygl nesaf Council Tax Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English