Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngorFideoPobl a lle

Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2023 4:54 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Council Tax
RHANNU

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau i ddiwygio Treth y Cyngor, 20 mlynedd ers iddo gael ei ddiwygio ddiwethaf, ac maent eisiau gwybod beth yw’ch barn chi.

Mae Treth y Cyngor yn helpu i ariannu’r gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd rydym ni gyd yn dibynnu arnynt sy’n cael eu darparu gan Gynghorau lleol, yn cynnwys ysgolion, llyfrgelloedd lleol, gofal cymdeithasol a glanhau strydoedd, ac mae’n talu am tua un pumed o wariant gan Gynghorau.

Mae’r system bresennol yn 20 oed ac mae’n cyfrannu at anghydraddoldeb cyfoeth.  Gall y cartrefi yn y bandiau treth uchaf fod gwerth mwy na naw gwaith gwerth cartrefi yn y bandiau gwaelod, ond eto dim ond tair gwaith a hanner yn fwy o Dreth y Cyngor maent yn ei dalu.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn i breswylwyr beth yw eu barn nhw am ddulliau gwahanol posibl sydd wedi’u dylunio i wneud treth yn decach, yn cynnwys ychwanegu bandiau Treth y Cyngor newydd, newid cyfraddau treth a godir ar bob band, ac adolygu disgowntiau neu ostyngiadau.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am gyflymder y newid yr hoffai pobl ei weld.  Y dyddiad cynharaf y bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno fydd 1 Ebrill 2025.  Serch hynny, fe allai newidiadau gael eu gohirio tan dymor nesaf y Senedd, neu eu cyflwyno’n raddol.

Ar yr un pryd â’r gwaith yma, mae’r Asiantaeth Swyddfa Brisio yn paratoi i gynnal ailwerthusiad arfaethedig o 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod gwerthusiadau yn rhai diweddar a’u bod yn cyd-fynd â’r gwerthoedd eiddo presennol.

Mae cynigion yn cynnwys cwblhau ailwerthusiad o’r 1.5 miliwn eiddo sydd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gwerthusiadau yn rhai diweddar a bod pobl yn talu’r swm priodol.  Fe fyddai hyn yn golygu bod modd creu bandiau gwahanol gyda chyfraddau treth newydd yn cael eu dewis ar gyfer pob band.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Cyllid Cyngor Wrecsam: “Rwy’n annog cymaint o breswylwyr â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad Treth y Cyngor yma er mwyn i Lywodraeth Cymru gael syniad clir o’r hyn mae pobl Wrecsam ei eisiau.  Mae hyn yn fater pwysig iawn sydd yn effeithio ar bob aelwyd yn Wrecsam, felly rwy’n eich annog i beidio â cholli’r cyfle i sicrhau bod eich barn yn cael eu hystyried.”

Gallwch lenwi Ymgynghoriad Treth Gyngor Decach ar wefan Llywodraeth Cymru.

https://youtu.be/vILhzGiX2II
Rhannu
Erthygl flaenorol 20mph Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Erthygl nesaf The Guildhall, Wrexham Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English